Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH Tymor y Gwanwyn 1962 BU'R tymor yn un hynod o brysur. Cafwyd darlithiau diddorol gan Alun 01dfield-Davies, Cyfarwyddwr y BBC yng Nghymru; tri Athro o'r America-Ferguson, Selby a Baylen (Ysgol- heigion Fulbright); Ieuan Williams, Cyfarwyddwr Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol, Abertawe; H. R. Wilson o Adran Hanes, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth; ac eraill. Fe enillodd rhai o'r myfyrwyr ysgoloriaethau. Cafodd R. Roberts o Llai, ger Wrecsam, Ysgoloriaeth Adran Allanol Prifysgol Caer- grawnt; ac y mae D. Tatton ar yr ail restr am yr un ysgol- oriaeth. Enillodd D. A. Watkins, brodor o Dredegar, Ysgoloriaeth yr Imperial Relations Trust i astudio gwaith yr Undebau Llafur yng Nghanada. Cipiwyd y darian yng Ngwyl Ddrama Meirion gan un o gwmnîau'r Coleg. Bu'r cymdeithasau wrthi'n egnïol hefyd. Cyfarfu'r Clwb Cerddor- iaeth yn gyson a chafwyd cyngherddau yn y Coleg gan Gôr y Coleg, a chyngerdd arall yn Nhrawsfynydd i gasglu arian at y gronfa adeiladu. Credai'r Warden fod y gwaith hwn, sef ychwanegu at fywyd cymdeithasol y cylch, yn rhan bwysig o waith y Coleg. Bu Cerddorfa Ieuenctid Aberystwyth yn cynnal cyngerdd yma ym mis Chwefror. Yn ddiweddar bu cwmni o Nottingham yn atgyweirio'r organ a chafwyd datganiad gan Charles Clements i ddathlu cwblhau'r gwaith. Cafwyd dadleuon yn ystod y tymor- er enghraifft, yn erbyn myfyrwyr Coleg Technegol Sir y Fflint, pan ddaethant yma am gwrs wythnos. Dangoswyd pum ffilm arbennig iawn yn y Gymdeithas Ffilmiau. Cynhaliwyd Ysgol Undydd gan adran Harlech a'r cylch o'r WEA ar y 24ain o Chwefror. Y testun oedd Problemau Heddwch a'r siaradwyr-Michael Foot, a Ieuan John o Goleg y Brifysgol, Aber- ystwyth. Daeth dros gant ynghyd. Yr ydym yn falch o weld y Warden, T. I. Jeffreys-Jones, yn ôl yn ein plith wedi cael triniaeth law-feddygol ym Mangor a Lerpwl. Gofalwch am fyw i fod yn 90. Ond cofiwch na chewch-chi ddim byw i fod yn 90 os na weithiwch-chi'n galed iawn i atal rhyfel niwcliar.-Bertrand Russell (90 mlwydd oed).