Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD Gan D. T. GUY YR wyf newydd ddychwelyd o Borthcawl, wedi cael amser pleserus a buddiol iawn mewn Ysgol Fwrw'r Sul WETUC. Meredydd Evans, o Adran y Dosbarthiadau Allanol, Bangor, oedd y darlithydd yn ysgol ola'r tywydd ym Mhorthcawl, a gofynnwyd iddo ddarlithio ar Rai Agweddau ar fywyd America Yn ei ddarlith gyntaf, deliodd Dr Evans â'r Cyfansoddiad Americanaidd: rhoes sylw yn ei ail ddarlith i'r Gyfundrefn Addysg yno; ac yn ei ddarlith olaf, i Bolisi Tramor America. Yr oedd y tair sgwrs o safon uchel iawn; yr oeddynt yn ddeniadol ac yn olau ac yn addysgiadol. 'Raid imi ddim dweud wrthych eu bod wedi symbylu trafodaethau rhagorol. Yr oeddem wrth ein bodd yn cael ei gwmni gyda ni, ac yr oeddem oll yn drist pan ddaeth yr awr iddo ymado. Yr oedd yn ddrwg gennym na allodd Mrs Evans, sydd a chanddi lu o gyfeillion yn Neheudir Cymru, fod gyda ni i gyfarfod â hen tfrindiau. Edrychwn ymlaen yn eiddgar am eu gweld eto'n fuan. Yn fy nodiadau y tro diwethaf, llongyfarchais Eddie Jenkins, a fuasai yn Athro-a-Threfnydd yng nghylch Aberafan, ar gael ei benodi yn athro ar staff Dosbarthiadau Allanol Coleg y Brifysgol, Abertawe. Yr ydym newydd benodi ei olynydd yn Aberafan, sef Keith Jackson. O gylch Sheffield y daw Mr Jackson. Wedi bod yn ddisgybl yn Ysgol King Edward VII yn Sheffield, aeth ymlaen i Goleg y Frenhines, Rhydychen, a graddiodd yn Adran Anrhydedd y dosbarth ar Hanes Diweddar. Ar ôl gorffen ei derm o wasanaeth milwrol, penodwyd ef yn athro gyda Gwasanaeth Efrydiau Allanol Prifysgol Rhydychen yng Nghylch Gogledd Sir Stafford. Croesawn ef a Mrs Jackson i Ddeheudir Cymru, gan obeithio y gallant ymgartrefu yn hapus yn ein plith. Y mae'r trefniadau ar droed yn awr ar gyfer ein Cyd-gyfar- fodydd (Rallies) Blynyddol. Bydd Rali'r myfyrwyr a'r athrawon yng Nghaerdydd Ddydd Sadwrn, Mai 19; Syr Donald Wolfit, yr actor enwog, fydd y siaradwr gwadd. Cynhelir y Rali yn Abertawe Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 7, a Mr Boyden, a fu'n Gyfarwyddwr Dosbarthiadau Allanol, ond sydd yn awr yn Aelod Senedd, fydd y siaradwr. Disgwyliwn gynulliadau lluosog o fyfyrwyr ac athrawon yn y ddau gyfarfod.