Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDD Yr Hen Gwpan Cymun, gan E. Tegla Davies. Gwasg y Brython. 6/6. Os byth y cyhoeddir casgliad o eglurebau gorau'r pulpud Cymraeg, y mae'n ddiogel gennym y brithir y gwaith hwnnw ag enw Tegla Davies. Go brin y gwawria Sul yng Nghymru heb fod rhyw bregethwr neu'i gilydd yn manteisio ar ei ddawn ddihafal ef i oleuo llwybr y genadwri drwy gyfrwng stori, cyffelybiaeth neu eglureb. Yn y gyfrol fechan hon o sgyrsiau radio ceir enghreifftiau godidog o'i fedr yn hyn o beth. Y mae Tegla gyda'r hynaf o'n llenorion uchelryw, wedi hen ennill ei blwy yn ein plith, ei faintioli fel ysgrifennwr yn amlwg a sylweddol, a'i ddylanwad fel proffwyd yn eang a diamheuol. Ymhob gair a lefarodd ac a ysgrifennodd daethom yn gyfarwydd â theithi ei bersonoliaeth a delw baich ei genadwri i'w oes. Cyfeirio'r ydym at graffter a threiddgarwch ei weledigaeth, unplygrwydd ei farn, ei gysondeb pwyslais, ei uniondeb deallol a didwylledd ei amcanion. A'r cyfryw rai ydyw esgyrn cynhaliol deunydd y sgyrsiau hyn eto. Ynddynt fe ategir erthyglau ffydd cyfarwydd yr awdur. O dan a thu ôl i ergyd a gwers pob sgwrs unigol y mae argyhoedd- iadau gwaelodol sy'n eu cydio wrth ei gilydd ac yn peri eu bod megis cangau amryfal eu ffurf yn tyfu allan o'r un boncyff. A chredaf fod gweld y boncyff cyn llawned ei elw ag edmygu'r cangau unigol. Er enghraifft, pobl naturiol yw'r gwir saint i Tegla Davies, megis y weddw Mary Tomos yn ei sgwrs Ffordd Cae Adar: Ac anamal y soniai am grefydd mwy nag y sonia dyn iach am ei iechyd A dyna Robert Parry yn Cluro: gwr siriol, naturiol, agos-atoch, heb ddychmygu ei fod yn berchen santeiddrwydd Bywyd heintus a dylanwadol yw'r eiddynt hwy: Beth yn bennaf a'ch denodd, megis yn reddfol, i ymhyfrydu yn y pethau gorau, ai doniau mawr y pulpud yn eu bwrw'n genlli uniongyrchol arnoch, neu droi bob dydd, yn blant ymhlith pobol syml, ffyddlon, glân eu calonnau ?