Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wrthrych tosturi dynion yn rhinwedd ei berthynas â rhywun diamheuol ei haeddiant. Onid yn union felly y gwêl Duw ddyn yng ngolau Crist, ac i'r awdur y mae ffaith fel hon yn goleuo llawer ar dywyll gilfachau Athrawiaeth yr Iawn. Eddyf yn Y Ffenest, sydd yn sgwrs Nadolig, mor drwm yw cysgod y Groes ar yr wyl iddo ef o ddyddiau plentyndod. Pwyslais arall na feiddiwn ei hepgor yn y dyddiau hyn yw'r un sy'n gwasgu arnom fod pwerau Duw yn drech na phwerau barus a brysiog dyn. Y mae amser o blaid Duw sydd a thragwyddoldeb yn eiddo iddo, ac yn unol â'i ewyllys gwrthweithia grymoedd natur y difrod trythyll sy'n ganlyniad pwerau dyn anystyriol. A thrachefn y mae inni gysur o gofio gwirionedd fel hwn: — A'r llaw sy'n ddigon cadarn i lywio'r Greadigaeth, hi'n unig sy'n ddigon di-gryn i drin pethau breuach,-briwiau calon dyn a rhwymo'i doluriau (Asgell Gwybedyn). Tant y Salmydd, ie, ond bysedd Tegla sy'n plycio am y tro. Sgyrsiau pum munud yw'r rhain, a chofiwn y cyngor hwnnw, Os siarad am awr, rhowch bum munud i baratoi; os siarad am bum munud, rhowch awr i baratoi Y mae'n ofynnol gwasgu heb fygu einioes na llurgunio ffurf gymesur. Cofiodd Tegla Davies hynny wrth lunio pob un o'r sgyrsiau hyn. Nid yw'r darlun gymaint ag unwaith yn rhy fawr i'w ffrâm. Ardderchog o beth fyddai defnyddio'r rhain mewn cylch trafod neu hyd yn oed mewn cyfeillach neu seiat. Maent yn ddigon byr i weinidog neu arall eu darllen yn gyhoeddus ac yn ddigon amserol ac awgrymog i gymell trafodaeth. Diolch i'r awdur a Gwasg y Brython am y casgliad hyfryd hwn. R. GWYNEDD JONES The Oxford Book of Welsh Verse, golygwyd gan Thomas Parry. Clarendon Press, Rhydychen. 25/ Cyn sôn am gynnwys y casgliad helaeth hwn o farddoniaeth Gymraeg, cystal crybwyll un pwynt sy'n debyg o daro dyn ar unwaith, sef y cwestiwn, Ar gyfer pwy y darparwyd y casgliad? Os ar gyfer Cymry Cymraeg, pam y ceir y rhagymadrodd a'r nodiadau yn Saesneg? Os ar gyfer Saeson neu Gymry di-Gymraeg, onid yw'r nodiadau yn gwbl annigonol i ddeall y farddoniaeth? Yr ateb, mae'n debyg, yw mai Gwasg Rhydychen a ofynnodd am y casgliad, i'w gynnwys yn y gyfres sydd ganddynt o farddoniaeth