Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Swm a sylwedd y sylwadau hyn, wrth gwrs, yw dweud y buasai fy netholiad i yn wahanol mewn rhai pethau, a diau y dywedai pob darllenydd yn gyffelyb, ond ni wn am neb a chwenychai dasg y Golygydd. Cyflawnodd waith aruthrol o fawr, a rhoddodd inni yr unig flodeugerdd gyflawn a gafwyd erioed o farddoniaeth ein cenedl. Saif honno bellach ochr yn ochr â blodeugerddi ieithoedd eraill Ewrop, a dylai hynny fod yn achos balchder a boddhad inni. Ac i'r gwr a wnaeth y gwaith enfawr hwn nid oes gennym ond diolch diffuant. GWILYM R. TILSLEY Tabyrddau'r Tabongo, gan Islwyn Ffowc Elis. Gwasg Aber- ystwyth. 10/6. Diau na chynhyrchodd Cymru, hyd yma, yr un llenor o'i oed ef mor rhyfeddol doreithiog ei ddychymyg a pharod ei ddoniau at bob pwrpas ag Islwyn Ffowc Elis. O'i ddyddiau fel efrydydd ym Mangor gyda'i gymheiriaid ffraeth ym Mharti Hogiau'r Coleg "-ac yn sicr ymhell cyn hynny-ei glasur cynnar, Cyn Oeri'r Gwaed yn Eisteddfod Llanrwst, yna ei nofel gyntaf, Cysgod y Cryman, ac ymlaen at ei olaf un, Tabyrddau'r Tabongo, heb sôn am ei waith diarbed gyda'r radio sain a'r teledu, ni pheidiodd ffrwythlondeb ei awen â bod yn achos syndod a llawenydd i bob un sy'n darllen Cymraeg. Yn wir, ac i neb fod mor grintach ac anghwrtais â beirniadu gwaith llenor mor loyw, ofnid weithiau, yn enwedig yn ei nofelau cyntaf, y gallai'r rhwyddineb creadigol hwn droi'n fagl iddo drwy i'w ddychymyg gymryd y bit yn ei ddannedd a rhedeg bant â'i bwyll beirniadol. Teimlid rywsut fod y tro mewn ambell gymeriad a'r newid yn yr. amgylchiadau oherwydd hynny yn digwydd yn rhy sydyn i gario ymddiriedaeth sicr y darllenydd gydag ef. Codai hyn o beidio â chael amser i fyw'n ddigon hir gyda'r cymeriadau wrth iddynt dyfu a datblygu. Ac anodd hynny lle byddai gyrr y dychymyg yn wirioneddol rymus a gwres y creu yn eirias. Rhaid wrth ryw fath o sicrwydd bywoliaeth a rhyfedd amynedd Duw i ail lunio pethau mewn gwaed oer hyd at ber- ffeithrwydd. Ond gyda phrofiad ychwanegol ciliodd y tueddiadau hyn, a daeth yr awdur yn feistr cyflawnach ar ei ddefnyddiau. Gwelir hynny, mi gredaf, cyn amlyced yn y nofel ddiwethaf yma ag yn