Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae yn y nofel hon eto engrheifftiau o ddawn yr awdur i lunio termau newyddion hapus, oherwydd rhaid ystwytho'r iaith lle bo angen, a pheri iddi, fel pob iaith fyw, lamu'n heini trwy gylchau newydd; i.e. Slempiodd i'w gadair Goglodd llygaid Ifans." Slempio, goglo, etc., dyna eiriau newydd, pishis teiriau 'r iaith yn cylchredeg ymhlith y werin, a stamp y werin arnynt. Clywais ddweud, cywir ai anghywir nis gwn, i Islwyn Ffowc Elis cyn hyn fod yn ystyried y cymhelliad i sgrifennu nofel hanes. A chyda phob parch i'r nofel hon, Tabyrddau'r Tabongo, ei chyn- llun cryno a phob edefyn strae a fwriwyd allan o dro i dro wedi ei wau i mewn yn gyfrwys i'r patrwm terfynol, gwychder y disgrif- iadau, a'i donioldeb drwyddi, ac i'r rhes o nofelau da a'i rhag- flaenodd, mentraf ddweud gydag eraill eto, nad yw ef, hyd yma, wedi dod at faes cyfoethocaf oll ei briod athrylith. A dywed rhyw- beth wrthyf mai mewn nofel hanes, nofel fawr grefyddol, neu gyfres ohonynt, efallai, yn delio ag un o gyfnodau mwyaf cyffrous a chreadigol bywyd Cymru, megis y ddeunawfed ganrif, dyweder, y cawn ni, rywdro, ei waith pennaf oll. Mae yn hanes Cymru, ar ei hyd, ddefnyddiau dihysbydd am ddramâu a nofelau i'r sawl a fedd y dychymyg i'w gweld a'r dwyster enaid i'w hamgyffred a'u dehongli. Ac y mae'r hanfodion hyn, diolch i'r nefoedd, wedi eu hetifeddu mewn modd tra arbennig gan Islwyn Ffowc Elis. D. J. WILLIAMS Atgofion Ceinewydd, gan Myra Evans. Cyfres Atgofion Ceredig- ion. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. Clawr Caled, 8/6; Ystwyth 5/ Platero a Minnau, gan Juan Ramón Jiménez, cyf. o'r Saesneg gan E. T. Griffiths a T. Ifor Rees. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 15/ Gofynnodd y golygydd imi roi barn ar y ddwy gyfrol hyn ar gyfer Lleufer, Rhifyn y Gwanwyn. Methais innau â gwneud mewn pryd, a'm cosb bellach yw bod eraill wedi dweud yr hyn oedd ar fy meddwl innau amdanynt. Anodd osgoi cerdded peth o'r un llwybrau. Mae dyled Cymru yn fawr iawn i Bwyllgor Llyfrau Sir Aberteifi, i'r Cyfarwyddwr a'r Pwyllgor Addysg ac i Lyfrgellydd y Sir, am eu gwaith yn hybu awduron newydd a hen i ysgrifennu, ac am sicrhau y cyhoeddir y cynnyrch gorau drwy'r Gymdeithas Lyfrau.