Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Campwaith Coll a Straeon Eraill o waith Balzac. 'Rwy'n deall bod ganddo nofel arall o'r Ffrangeg yn barod i'r wasg. Clasur a droswyd o'r Sbaeneg yw Platero a Minnau, gwaith y llenor mawr Juan Ramón Jiménez, a enillodd Wobr Nobel yn 1956. Fe'i cyfieithwyd eisoes i brif ieithoedd Ewrop ac i'r Hebraeg. Detholiad o'r gwreiddiol Platero y Yo a geir yn y llyfr Cymraeg, pigion o grwydradau dyn a'i asyn, ac asyn rhyfeddol oedd Platero, ei berchen ac yntau mewn cytgord perffaith, yn ddau enaid hoff, cytûn. Beth yw asyneidd-dra? gofynna'r awdur. Oni ddylid galw dyn da yn asyn, ac asyn drwg yn ddyn? Yr hyn a'm trawodd i fwyaf oll yn y llyfr hwn oedd ei hamdden bendigedig-hamdden i ddyn a'i anifail grwydro drwy froydd cyfoethog Andalwsia, trwy'r pinwydd, y coedlannau olewydd a'r perllannau orenau; mynd weithiau dan ganu, dweud pennill neu ddarllen, ond yn amlach gan sylwi a gweld a rhyfeddu at afradus olud lliwiau, gwrando a chlywed swn a sain, llais adar, cân sioncyn y gwair, chwerthin plant; gwrando ar y tristwch, yr hiraeth mwyn diddarfod o dan y llawenydd; gwrando ar leisiau dyfnaf y galon yn ei hunigedd Y synwyrusrwydd hwn yw'r peth amlycaf yn y llyfr, y blasu, yr arogleuo, y teimlo, gan adael i argraffiadau lifo i mewn i'r enaid nes meddiannu dyn a pheri iddo ar adegau dorri drwy gyfyngiadau lle ac amser, a theimlo'n rhan o undod y cread. Nid peth hawdd yw trosi gwaith cyfrin, cain fel hwn i iaith arall. Anwyldeb, tynerwch, purdeb--dyna rai o'r geiriau a ddaw o hyd ac o hyd i'r meddwl wrth ei ddarllen. Mor hawdd fyddai colli rhin y telynegion hyn ar ffurf rhyddiaith. Camp yr awduron yw iddynt ei gadw a llunio clasur Cymraeg campus o'r trosiad. Mae Platero a Minnau yn llyfr i'w drysori, yn argraffiad hyfryd ar bapur arbennig mewn clawr bwcram, gyda llun a llythyren aur, a chyda darluniau gwir gydnaws gan Hywel Harries. Dylai pawb fod yn falch o'i feddiannu, ac yn well o droi ato yn awr ac eilwaith i brofi o'i diriondeb prin. C.D. Ysgrifau ar Addysg—Y Gyfrol Gyntaf: Y Plentyn Ysgol Golygwyd gan yr Athro Jac L. Williams. Cyhoeddwyd ar ran Cyfadran Addysg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan Wasg Prifysgol Cymru. 10/6. Dyma'r gyfrol gyntaf mewn cyfres o Ysgrifau ar Addysg a addewir inni gan Gyfadran Addysg Coleg y Brifysgol, Aberystwyth,