Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cyf. XVIII GAEAF 1962 Rhif 4 NODIADAU'R GOLYGYDD BYDDAF yn cael fy syfrdanu bron ambell dro pan ystyriaf y fath gynnydd aruthrol mewn gwybodaeth a gallu a ddaeth i ran dyn yn ystod y blynyddoedd er pan oeddwn i'n blentyn. Ac y mae'r cynnydd yn parhau, a mwy na hynny, yn parhau â chyflymdra na fu erioed mo'i debyg o'r blaen ar y ddaear. Yr oeddwn yn gallu rhagweld rhai o'r rhyfeddodau hyn. Cofiaf fod cryn sôn y pryd hwnnw am yr anturiaethwyr a geisiai gyrraedd Pegwn y Gogledd a Phegwn y De. Prynais lyfr Nansen, Farthest North, yn rhannau, pan oeddwn oddeutu ugain oed, a chredwn yn ffyddiog y byddai rhywun yn siwr o gyrraedd y naill begwn a'r llall yn hwyr neu'n hwyrach. Erbyn heddiw, y mae teithwyr a gwyddor- wyr yn ddigon cartrefol ym Mhegwn y Gogledd, ac ar y cyfandir mawr sy'n amgylchu Pegwn y De. Credwn hefyd y llwyddai dynion ymhen amser i gyrraedd i ben Mynydd Everest, a'r mynyddoedd anhygyrch eraill, ac y mae'r gorchestion hyn eto wedi eu cyflawni. Ac nid i'r pegynau a phennau'r mynyddoedd yn unig y bydd dynion yn mynnu ymwthio, ond hefyd i ddyfnderoedd y môr. Erbyn hyn, y maent yn medru cadw'n fyw am gryn amser yng ngwaelod y môr, a hyd yn oed tynnu lluniau ohonynt eu hunain yn ymsymud yno, a ninnau'n gallu gwylied eu symudiadau ar y teledydd. A soniant yn awr am gael pobl i wneud eu cartref ar waelod y môr, ac am ffarmio'r moroedd a thyfu bwyd i borthi pobloedd newynog y byd. Sonnid llawer o bryd i bryd gynt am ddynion yn ceisio ehedeg, ac nid oedd ynof amheuaeth na lwyddai dyn rywbryd i adeiladu llongau i nofio drwy'r awyr. Cofiaf hanes yr arbrofion cyntaf yn y papurau newydd, Bleriot yn croesi'r Sianel o Ffrainc, a Lindbergh yn croesi Môr Iwerydd o America; a chofiaf y llong awyr gyntaf a welais erioed, yn ehedeg yn isel uwchben strydoedd Caernarfon. Ond ni chyrhaeddodd fy ffydd na 'nychymyg i ragweld llongau awyr a allai amgylchu'r byd mewn ychydig oriau. Cyn bo hir, fe