Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYD-FYW Gan O. E. ROBERTS VIII YNG ngeiriau adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn 1958 (The Future Growth of World Populatiori), "cymerodd 200,000 0 flynyddoedd i boblogaeth y byd gyrraedd 2,500 o filiynau. Ni chymer yn awr ond rhyw 30 mlynedd i godi 2,000 miliwn arall. Yn ôl y radd bresennol o ychwanegiad, gellir amcangyfrif y bydd rhif bodau dynol ar y ddaear ymhen 600 mlynedd gymaint fel na fydd gan bob un ohonynt ond llathen sgwâr i fyw arni (yn lle'r 8 erw ar ei gyfer heddiw). Nid oes angen dweud na ddigwydd hyn byth, daw rhywbeth i'w rwystro". Un o broblemau mawr y dydd, felly, yw penderfynu beth yw'r "rhywbeth" hwn, a'r ofn naturiol erbyn hyn yw mai rhyfel atomig yw unig ateb y gwladweinwyr, er ynfyted y ffordd honno o ddatrys y broblem. Ardaloedd diwydiannol, poblog, Ewrop ac America a ddioddefai fwyaf yn y dinistr mawr. Y ddwy ffordd draddodiadol arall o ostwng y boblogaeth yw haint a newyn. Cyfyngir heintiau i raddau pell heddiw gan foddion diweddar meddygaeth ac iechyd- aeth, ac wynebir problem newyn o ddifrif heddiw. Erys un ffordd arall, sef cyfyngu gwirfoddol ar radd genedigaethau. Hawdd dweud bod angen cynllunio teuluoedd trwy reoli genedig- aethau, ond golyga hyn gyfnod hir o addysgu cyn y bydd derbyniad i'r syniad gan nifer o genhedloedd. Er bod Nehru o blaid rheoli geni, a bod sefydlu'r boblogaeth yn rhan hanfodol o gynllun dat- blygiad economaidd India, cododd gwrthwynebiad mawr i hyn o safbwynt moes a chrefydd, heb sôn am arferiad a thraddodiad. Er i Mao Tse-tung honni bedair blynedd yn ôl mai ei phoblogaeth oedd un o brif fanteision China, sylweddolwyd yno bellach beryglon gor-boblogi, a rhoddwyd lle amlwg yn y wasg yn ddiweddar i gynghorion ar reoli genedigaethau ac i berswadio'r ifainc i ohirio priodi er mwyn lleihau nifer y plant a enir yno. Credir mai'r hyn sy'n gyfrifol am y newid hwn yn China yw'r ffaith y canfuwyd bod y newyn achlysurol yno yn rhwystro'r datblygiad diwydiannol. Oni cheir bwyd digonol i'r gweithwyr, nid oes modd i'r rheini wneud diwrnod da o waith. Rhaid gostwng y boblogaeth i hyrwyddo cyn- hyrchiad diwydiannol. Y mae'n amlwg na ellir mabwysiadu dulliau ymarferol ar raddfa eang ymysg pobl anwybodus a thlawd, pe ond