Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

soddion benthycwyr rhoddwyd iddynt £ 2,500 miliwn er y rhyfel. Hawdd gweled y gwahaniaeth yn Affrica yn enwedig, lle y codwyd bron o ddiwylliant Oes y Cerrig mewn llawer man i foethusrwydd yr ugeinfed ganrif o fewn ychydig flynyddoedd, a sicrhau iddynt addysg brifysgol o fewn terfynau eu gwlad eu hunain. Rhoddodd y Taleithiau Unedig filiynau o ddoleri hefyd i wledydd tramor. Wedi Cynllun Colombo yn 1950, cafodd nifer o wledydd Asia bron £ 500 miliwn y flwyddyn ar gyfer codi ychwaneg o fwyd, a daeth £ 300 miliwn o'r arian yn y cyfnod hwn o Brydain. Wrth gwrs, ni fedrwn anwybyddu cyfraniad Rwsia ychwaith, er nad oes sicrwydd o'i faint. A phan fo'r gwledydd mawrion yn cyfrannu, nid yw hwnnw heb ei amodau, a thir hawdd hau propaganda ynddo yw hwnnw lle y trig y tlawd a'r newynog. GWyr y bobl rheini bellach gymaint yn amgenach yw hi ar bobl eraill, ac nid ydynt mwyach yn fodlon dioddef yn ddistaw. Amhosibl i fyd newynog fod yn un hapus a heddychlon. Cyfran- nodd FAO a UNICEF ac awdurdodau Cynllun Colombo yn helaeth a bu nifer o gymdeithasau gwirfoddol yn hybu'r gwaith o godi ychwaneg o fwyd ac o storio cnydau, o addysgu mewn sefyd- liadau amaethyddol ac ysgolion technegol, o ddarparu prydau fel y gellir sicrhau gwell mantoliad yn y ddiet. Ond annigonol y cyfan. Er mwyn tynnu sylw'r byd at y broblem y symbylodd FAO yr Ymgyrch dros Ryddid rhag Newyn mewn 40 o wledydd eleni, ymgyrch sydd i barhau am bum mlynedd, gan hyderu y bydd cyd- weithrediad naturiol yn dilyn. A'r cwestiwn mawr yw a fedr gwydd- oniaeth amaethyddol ryddhau'r byd o newyn gystal ag y rhydd- haodd gwyddoniaeth feddygol y byd o'i heintiau? Nid problem i'r gwyddonydd yn unig yw hi ychwaith. Y mae iddì agweddau econ- omig, oherwydd y mae angen arian i dalu, ac agweddau cymdeith- asol, gan y bydd angen llawer o gyfnewidiadau cyn y gall dynion gyd-fyw mewn ffydd, gobaith a chariad. Od ydwyd, fal y dywedan', yn ffôl Ac yn ffals dy amcan, Hynod i Dduw ei hunan Fentro dy lunio mor lân! Dienw, yn Y Gelfyddyd Gwta, T. Gwynn Jones.