Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HUW LLOYD EDWARDS Gan EDWIN WILLIAMS Y Gŵr o Gath Heffer a Y Gŵr o Wlad Us, gan Huw Lloyd Edwards. Gwasg Gee. 10/6. AR gyfer y Radio yr ysgrifennodd Huw Lloyd Edwards y gyntaf o'r ddwy ddrama yma, ac er iddo, yn y copi argraffedig, gyn- nwys cyfarwyddiadau llwyfan, tueddaf i gredu mai yn y cyfrwng y bwriadwyd hi'n wreiddiol y gellir cyflwyno'r gwaith ar ei orau. Ar y Radio gall dychymyg y gwrandawr ehedeg yn rhydd o olygfa i olygfa, o gyfnod i gyfnod ac o gonfensiwn i gonfensiwn. Ar lwyfan, gallai'r newid parhaus sydd yn y ddrama hon fod yn faen tram- gwydd i lwyfannydd di-brofiad (er, mae'n rhaid cyfaddef, y gallai fod yn her ddiddorol i lwyfannydd o ddychymyg). Nid yw ych- wanegu cyfarwyddiadau llwyfan, er cystal yw'r rhain ar y cyfan, yn ddigon i drosi drama o gyfrwng y Radio i gyfrwng y llwyfan. Ymddengys y ddrama, o ran ei ffurf, ei hiaith a'i chonfensiwn, yn fwy addas i theatr clust a dychymyg y gwrandawr nag i theatr clust a llygad yr edrychwr. Nid na ellid cyflwyniad diddorol ohoni ar lwyfan, o dan gyfarwyddyd priodol. O ran ffurf dewisodd yr awdur fabwysiadu dull y Cyflwynydd sy'n pontio rhwng golygfa a golygfa. Jonah, yn henwr, yw'r Cyf- lwynydd yma a cheir amrywiaeth o olygfeydd yn cyfleu hynt y proffwyd o'i ddyddiau cynnar ac yn arbennig ei genhadaeth i ddinas Ninefe. Amrywia natur y golygfeydd-rhai yn weddol realistig, ac eraill o angenrheidrwydd yn fwy ffantasiol. Er enghraifft, mae golygfa weddol realistig ar fwrdd y llong yn cael ei dilyn gan olygfa ffurfiol rhwng Jonah a'r Morfil. Amrywia iaith y ddrama gryn lawer hefyd. Yn y rhannau mwyaf ffurfiol ceir iaith gyhyrog, farddonol. Fel hyn y cyflwyna'r henwr Jonah fro ei febyd ac y gresyna'r newid a ddaeth drosti. Cripiodd y scorpion i nyth y golomen; ymlusgodd yr asp dan garreg y drws. Distawodd cleber yr heolydd; mae dy farch- nad lon yn fud. Yn y golygfeydd mwy realistig, cawn ystwythach iaith ac acenion, ac ymadroddion mwy llafar. Hyd yn oed yma, fodd bynnag, teim- lwn fod y dramodydd yn gallu ymdeimlo â swyn geiriau a llunio barddoniaeth sgwrs.