Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FY MAB, PRYDERI Gan Nicoîai lefdocimoff, cyfieithwyd ac addaswyd= Gan H. R. WILLIAMS NI ddigwydd yn aml, ond yn amlach fel y treigla'r blynyddoedd. Deffroaf gyda'r wawr ac af i grwydro strydoedd moel y jddinas. Er torri o'r wawr, erys y goleuadau ynghyn, fel petaent wedi blino ar yr hirnos faith. Sawr gwawr wlithog sydd ar y ddinas. Erys y gwlith ar bob adeilad, ar derfynau heyrn y meysydd, ar war pres pob delw. Yr adar, teyrnasant yn ninas bore glas. Bydd eu trydar mor swynol â phe baent ym mrigau'r wig. Bolchwydda'r colomennod ar draws y sgwâr dan grwn yn uchel. Gyda'r wawr y mae'r heol ger- bron y brifeglwys megis dôl. Cyfyd glaswellt dan daen o wlith rhwng y crynfeini. Yn ystod y dydd gorwedd dan sang olwynion y ceir, ond yn awr rhodia colomen ar y glaswellt llaith a'i chrŵn cwynfanus bach. Ysgydwa'r awel bluf ei hadenydd. Nofia persawr blodau yng nghesail y gwynt a sibryda gwenyn yn y distawrwydd. Yna daw tram a throl i'r stryd. Symudant yn hamddenol, ystwyth, prin ar ddihun. Goleua pelydr cyntaf yr haul gloch yr Eglwys, a sain gref ohoni yn cyffroi wyneb yr afon. Daw'r afon, wedi ei chynhyrfu, yn fyw ac arddengys ei hun i'r haul wedi noson lonydd. Adlewyrchir cwmwl pell gan y dwr a theifl pont gysgod digrif. Ymgyfyd adeilad. Yn uchel, yn y sgerbwd, saif dyn ieuanc. Fy mab, Pryderi. Gesyd garreg a'i tharo'n ofalus â'i drywel. Ar unwaith daw sein- iau cyffelyb o bob cwr. Megis colomennod, ehedant yn uchel uwch- law'r ddinas, dinas o weithwyr. Fy mab, Pryderi, a ddeffrôdd y ddinas. Gyda'r hwyr, safaf wrth y ffenestr gan ddisgwyl Pryderi. Eistedd merch wrth riniog ffenestr mewn tŷ dros y ffordd yn syllu'n drist- aidd ar y stryd islaw. Gwn lawer amdani, ac eto ni wn ddim. Gwn yr hoffai chwerthin ac adwaenaf ei chwerthin gystal am ei fod mor debyg i eiddo mam Pryderi. Ond pam yr eistedd felly wrth riniog y ffenestr, beunydd gyda'r hwyr, megis petai'n disgwyl wrth rywun, a pham y try ei hwyneb siriol, cu, mor athrist? Erys amdano, mi wn, ond ni ddaw, ni ddaw