Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ei rhan ers meitin, ond yr oeddwn i heb wneud. Gwyddai hi fy mod wedi ei gadw iddi hi. "Bydd ei angen i'n te ymhellach ymlaen", meddwn i. "Rhowch e i mi 'Wnes i ddim. Nid oherwydd trachwant, canys yr oeddwn wedi ei gadw iddi hi. Nid oedd yn ddig. Parhâi'r pelenni â'u cwynfan. Cwympent yn nes fyth erbyn hyn. Gallem glywed y sglodion a'u su fel nythaid o gacwn "Yr ydym i gael mab", meddai Anwen. "Ydech chi'n clywed, yr ydym i gael mab. Bydd e'n union fel chi. galwn ef Pryderi. Yr oedd hynny mor bell, bell yn ôl. Deffroaf gyda'r wawr, ac af i grwydro strydoedd amddifad y ddinas. Y mae'r ddinas gyda'r wawr a gwynt petrol a choncrit arni. adeilada Pryderi dŷ. Saif ar y sgerbwd yn gosod y cerrig a'u taro yn ofalus â'i drywel. Adeilada Pryderi dŷ. Cyn bo hir bydd sawr paent ar ei furiau. Y mae bron yn barod. Yn fuan, fuan iawn, perffeithia Pryderi ei dŷ! Tŷ â sawr paent a bara ynddo. na, 'adeilada Pryderi byth mo ddim byd! A thithau, y ferch wrth riniog y ffenestr, paid â'i ddisgwyl. Canys ni ddaw, fyth, fyth. "Galwn ef Pryderi dywedodd Anwen, a chlywsom, ein dau, su y sglodyn haearn. "O! Bu syndod a thristwch yn llais Anwen wrth i'w phen sigo i'r glaswellt. "Peidiwch â'm twyllo!" ysgrechiais. Dan wylo mi wasgais y cnipyn siwgr i'r gwefusau a oedd eisoes yn oeri Disgleiria'r gwlith ar y glaswellt. Daeth corun grawn unnos trwy'r glaswellt wrth ymyl pen Anwen. Ar y pryd, prin y sylwais arno, y grawn unnos, ond gyda'r blyn- yddoedd y mae wedi tyfu'n gyson ar fy nghof. Y mae wedi chwyddo yn enfawr nes cysgodi'r holl fyd â'i orchudd llethol. Chwalwch ef, ddynolryw. Anhyddysg mewn trin oeddynt,-a beiau Ein bywyd oedd arnynt; A'r un hedd sy'n rhan iddynt Â'r "gwyr a aeth Gatraeth" gynt.—Gwilym R. Jones.