Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEFOEDD AR Y DDAEAR — HEDDIW Gan W. R. OWEN (BODWYN) MI wn i erbyn hyn y rheswm am ddiwydrwydd fy nain, a aned yn 1834, i olchi ei dwylo ar ôl pob gorchwyl. Drwy drugaredd, yr ydym newydd ein rhyddhau o haint y frech wen yn Ne Cymru. Ond yn ein dyddiau hi, fel geneth bymtheg oed, bu'n byw drwy haint y colera dychrynllyd yn 1849. Er i'r colera fod yn rhywbeth digon cyffredin ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddi- wethaf yn y gwledydd dwyreiniol, ceir sôn am y pla yn torri allan yn Ninbych yn 1832 gan ladd 53 allan o dros gant a gymerwyd yn wael, oherwydd i frodor o'r dref ddychwelyd o Lerpwl o ganol yr haint. Fe ddywedir i dros ddeugain mil farw yn Lerpwl fel can- lyniad i'r colera a heintiau eraill yn y blynyddoedd rheini. Ac y mae'n werth nodi fod un o'r meddygon esgyrn mwyaf yn y byd, sef Huw Owen Thomas o Fôn­ewythr i Robert Jones, cyd-sylfaen- ydd gydag Agnes Hunt yr Ysbyty enwog yng Nghroesoswallt- wedi llafurio ynghanol yr heintiau yn Lerpwl yn ei ddyddiau ifanc. Mewn darlun ohono fe'i gwelir yn ei wisg forwrol-yn ei gap pig a'i reefer, a sigarét beunydd yn ei enau i'w ddiogelu rhag yr afiech- ydon! Oherwydd ei arferiad anhraddodiadol yn y dyddiau pan fyddai hen ddoctoriaid henffasiwn yn ymwisgo yn eu ffrociau côt, gwyddai Thomas y câi fynediad i slymiau Lerpwl, pan waherddid aelodau mwy graenus o gymdeithas, i fysg morwyr meddw ac afreolaidd y porthladd a'r tlodion yn iselfannau'r ddinas. Ac yn 1834 torrodd y pla allan yn Llanelwy a phriodolwyd y digwyddiad i arferiad y tlodion yn y slymiau o roddi lloches i ddieithriaid crwydrol diamgeledd: lladdwyd deunaw o bobol allan o'r pedwar ar hugain a fu'n wael. Ond ni welwyd dim tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn 1849 yn y wlad hon pan laddwyd 53,000 ym Mhrydain, gan gynnwys 1,732 0 farwolaethau yng Nghymru. Mae'n syndod pa mor brin y manylion am y digwyddiad erchyll hwn, fel pe bai'r cyhoedd yn rhy ofnus hyd yn oed i sibrwd enw'r pla. Ond yn ôl adroddiad Dr Pyke o Ferthyr, arbenigwr mewn heintiau ar y pryd, dywedodd i'r pla gyrraedd Merthyr o Hambwrg drwy i forwr a laniodd ym Mryste letya yn y Welsh Back (ym Merthyr, mae'n debyg) ac iddo ddangos holl arwyddion colera yn ei gyfansoddiad. Ac yna Iletyodd morwr arall yn Llanelli a fu'n gydymaith i'r morwr o Hambwrg: bu ef