Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYLL HENO GAN ISLWYN FFOWC ELIS Tywyll Heno, gan Kate Roberts. Gwasg Gee. 8/6. STORI fer hir y mae'r Dr Kate Roberts yn galw'r nofel fer hon, ac fe ddaw'r teitl o Stafell Gynddylan, a ddefnyddir yn wych iawn fel simbol drwy'r llyfr. Mi fwynheais i'r llyfr hwn yn anghyffredin. Fe gyfyd cwestiwn yn syth: A ddylai rhywun fedru mwynhau stori am wallgofrwydd? Mwynhau'r geityddyd, bid siwr, mwynhau craffter a chrefft yr awdur ar bob cyfri, ond mwynhau'r stori'i hun-tybed? Wedi deall beth oedd mater y stori, 'roeddwn i'n arswydo braidd wrth fynd ati i'w darllen, yn enwedig wedi gweld mai'r prif gymeriad ei hun, y wraig a gollodd ei phwyll, oedd yn adrodd yr hanes. Ymnerthais yn barod i fynd drwy ingoedd duon gyda hi (nid yw'r rheini'n ddiarth i rai ohonom), i gael fy nhynnu gerfydd f'arswydau a'm tipyn tosturi i lawr grisiau'r meddwl dadfeiliedig i'r ogof enbyd sydd dan sylfeini pwyll pob un ohonom. Ni fuasai'n rhaid imi ofni. Mae yma ddarlun hollol gredadwy a byw o wraig yn mynd drwy gyfnod anodd ar ei bywyd, yn cael yr hyn a elwir yn gyffredin yn nervous breakdown. Gwraig i weinidog ydyw, a'i thrwbwl yw colli'i ffydd. Fe all hynny fod naill ai'n achos neu'n effaith ei salwch; mae'r stori'n dangos yn grefftus iawn pa mor anodd yw didoli achosion ac effeithiau mewn cyflwr o'r fath. Mae'n ymddangos i mi mai trafferthion y mans a sbeit aelodau eglwysig a chwalodd iechyd y wraig, er ei bod hi'n mynnu gwadu hynny. P'un bynnag, y mae'r darlun yn real. Yn yr ysbyty meddwl y mae'r wraig yn adrodd ei phrofiad, wedi iddi ddechrau gwella. Er bod yma ddarlunio manwl ar gyflyrau meddwl y wraig, a phortreadau bach da o gymdeithas y capel a gwrth-gymdeithas ward yr ysbyty meddwl, nid oeddwn i'n teimlo min y dioddef nac yn gweld düwch y düwch a ddisgrifir. Mewn un ffordd, y mae hynny'n deyrnged i'r Dr Roberts. Fe fuasai rhywun yn disgwyl i nofel ganddi hi ar y thema hon fod yn dywyll iawn ei hawyrgylch ac yn drwm ei llinellau. Nid felly. Er bod yr awdur wedi wynebu'i thema'n onest, mae'r gwaith mor ddifyr â stori gylchgrawn. Mae'n adloniant. Mae yma gasgliad hoffus o gymeriadau. Y gwr, y gweinidog Gruff: rhy gymwynasgar ar ei les ef ei hun a'i deulu, rhy hir yn