Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cryn camp fyddai dweud hwnyna'n ddiddorol ar lwyfan neu i'r meicroffon. Bob tro y bydd Kate Roberts yn arfer y gair "fel", fe dybir bod yn rhaid gweiddi haleliwia. Aeth yn ystrydeb dweud bod ei chymar- íaethau-eí "feliau" enwog-yn goron ar ei harddull. Gwir bod yn y llyfr hwn eto ambell "fel" go dda, e.e. "mynd yn neb ac yn ddim fel poeri'r gog yn diflannu oddi ar laswellt". Ond mae yma rai mwy ymdrechgar o dipyn na hwnyna. Tybed nad yw'r Dr Roberts wedi cymryd ei pherswadio gan fân feirniaid mai'r "feliau" hyn yn wir ydyw coron ei harddull, a bod yn rhaid iddi bupuro'i holl waith â hwy? Y gwir yw fod ei throsiadau'n gyfoethocach na'i chy- mariaethau; megis hwn: Aeth yn ei hôl i'w thy yn frysiog fel y daethai ac aeth peth o'r haul allan efo hi. Pam y mae'r llyffant blwydd yn ceisio lladd y dwyflwydd? Am fod y dwyflwydd wedi sgrifennu llyfr rhagorol a allasai fod yn odidog oni bai am ddiofalwch a charbylni y gellid bod wedi'u hepgor mor hawdd. Cas beth gen' i yw hollti blew gramadegol a chystrawennol, ond, wedi'r cyfan, dyma'r math o feirniadu a geir yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r math o adolygu a geir, ysyw- aeth, yng Nghymru. Ac os yw'r gorau ohonom yn llithro yn y pethau hyn, rhaid iddo yntau neu hithau yfed ei ffisig fel pob un ohonom. A'r orau ohonom yw Kate Roberts. Wedi'r cyfan a ddywedwyd, ac er ei waethaf, nid oes neb ohonom a allai ysgrifennu cystal stori fer hir â Tywyll Heno. Dyma'r ddawn storïol fwyaf sydd gennym. Y mae rhai o gerddi W. J. Gruffydd, Gwladys Rhys a Thomas Morgan yr Ironmonger, wedi eu llunio ar ddelw'r cerddi yn The Spoon River Anthology, gan Edgar Lee Masters, y bardd Ameri- canaidd. Cyhoeddwyd Gwladys Rhys gyntaf yn rhifyn cyntaf Y Llenor, a'r "Nodiad" hwn uwch ei phen-"Yr oedd ymhlith y pentrefwyr y sonia Mr. Edgar Lee Masters amdanynt yn ei Spoon River 'Anthology rai Cymry hefyd".