Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEGAU GWERIN SGANDINAFIA GAN T. HUGHES-GRIFFITHS CEISIAF ddweud rhywbeth am syniadau a rhaglen, datblygiad a safle, yr Uwch-Ysgolion Gwerin yn Norwy a'r gwledydd Sgandinafaidd eraill. Dywedodd y Prifathro Arnfred o Ddenmarc: "Nid oes neb a wad nad ym meddwl Grundtvig y tarddodd yr Uwch-Ysgolion Gwerin; ei weledigaethau ef a'u lluniodd, a throwyd hwynt yn sylwedd gan bobl gyffredin Denmarc. Gallwn ychwanegu mai'r ysgolion hyn ydyw cyfraniad arbennig pobl Denmarc at hanes diwylliant". Y mae gwledydd eraill, yn Ewrop a thu allan iddi, erbyn hyn, wedi ymddiddori yn y math yma o ysgolion, ond yng ngwledydd Sgandinafia yn unig y maent wedi gwreiddio a dyfod yn rhan han- fodol o'u bywyd cymdeithasol a diwylliannol. Heddiw, y mae yno o drichant i bedwar cant o'r Uwch-Ysgolion hyn, ac oddeutu 30 mil o fyfyrwyr yn eu mynychu. Cydnabyddir yn gyffredin mai yn y Rodding Höjskole (Ysgol Uwchradd) y cychwynnwyd yr Ysgolion Gwerin gyntaf gan yr Athro Christian Floor o Kiel, a rhoes Grundtvig ei fendith arni mewn araith fawr a draddododd i bobl Gogledd SIesvig yn fuan ar ôl ei hagor yn 1844. Hanes Denmarc, iaith Denmarc a'i llenyddiaeth, oedd prif bync- iau'r astudiaeth-a Hanes yn gyffredinol hefyd, lle'r astudiai'r myfyriwr Ddyn, a Chymdeithas, ac ef ei hun, a lle y dygid ef, chwedl Grundtvig, "wyneb yn wyneb â chynllun Duw i genhed- loedd unigol ac i bersonau unigol". Yr oedd Ysgolion Gwerin Denmarc, felly, o'u cychwyniad, yn ysgolion cenedlaethol parod i'w gwaith, a'u nod yn ddeffroad y bobl i fywyd diwylliannol ar eu tiriogaeth genedlaethol eu hunain. Ond ni allai bywyd diwylliannol ffynnu ond yn awyrgylch rhyddid, a daeth "rhyddid" felly yn air canolog gan Grundtvig, ac yn amod bywyd ysbrydol yr Ysgolion Uwchradd Gwerin. Caiff rhyddid cenedlaethol a phersonol eu mynegiant llawnaf o dan lywodraeth ddemocrataidd; gweithia'r Ysgolion Gwerin, felly, dros ryddid cenedlaethol a democrataidd. Cychwynnwyd Ysgolion Gwerin Norwy yn 1864. Prif nodwedd