Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rai ysgolion â chyrsiau dwy ftynedd ynddynt. Pwysleisir addysg gyffredinol y flwyddyn gyntaf, ac yna cyfuniad o addysg gyffredinol ac arbenigo yr ail ftwyddyn. Astudiant hanes, llenyddiaeth, seicoleg, cymdeithaseg, crefydd, mathemateg, a'u hiaith eu hunain; a gallant ddewis pynciau erall, megis Saesneg, ffuseg, a chemeg. Y mae cyrsiau ymarferol i'r merched, yn cynnwys y pynciau academaidd, ynghyda phynciau teuluaidd, megis coginio, gwnïo, a gofal tŷ. Ac mewn rhai ysgolion, astudia'r bechgyn gyrsiau ymar- ferol, megis gwaith coed a gwaith metel. Mewn rhai Ysgolion, bydd grwpiau o fyfyrwyr yn astudio'r ddrama, ac yn ei hactio; a grwpiau eraill yn astudio cerddoriaeth, a threfnant gyngerdd ddwywaith y mis i wrando ar gerddoriaeth glasurol. Bydd gan rai eraill ymarferiadau corfIorol-dawnsiau gwerin, a mabolgampau yn yr awyr agored, megis cerdded a sgio. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, y mae nodweddion yr Ysgolion hyn yng ngwledydd Sgandinafia wedi newid gryn lawer. O'r werin wledig y tarddodd, ond y mae'r amodau cymdeithasol yn awr wedi newid, am fod y bywyd amaethyddol yn lleihau, a'r bywyd diwydiannol yn cynyddu. Aeth yr Ysgolion Gwerin yn Norwy a Denmarc ar i lawr ar ôl y Rhyfel, ond yn awr y maent yn adfywio, ac yn ymgyfaddasu i wasanaethu'r boblogaeth ddiwydiannol. Ni chollodd yr Ysgolion hyn dir, fodd bynnag, yn Sweden na Ffinland. Bu dylanwad yr Ysgolion Gwerin ar fywyd cymdeithasol y gwledydd hyn yn fawr iawn. Cynhaliodd y bywyd llenyddol a diwylliannol, ac yn Norwy gwnaeth lawer i ddiogelu'r iaith. Aeth y myfyrwyr adref o'r colegau, a threfnu Clybiau Ieuenctid yn yr ardaloedd gwledig, sefydlu Cymdeithasau i gasglu caneuon gwerin, a'u cyhoeddi a'u canu, sefydlu banciau gwledig i'r werin, undebau ffermwyr, cymdeithasau llaethwyr a chymdeithasau cydweithredol. Nid yw'r Ysgolion Gwerin yn ymdrin â'r materion hyn yn union- gyrchol, ond yr oedd y deffroad meddyliol a gafodd y myfyrwyr ynddynt yn eu symbylu i'r math hwn o weithgarwch cymdeithasol. Hyd y gwn i, yr unig fardd Cymraeg sydd wedi ysgrifennu barddoniaeth Saesneg a dderbyniwyd gan y Saeson ydyw Williams Pantycelyn, yn ei emyn, Guide me, O Thou great Jehovah.