Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS MANTEISIAF ar y cyfle hwn i ddymuno i ddarllenwyr Lleufer, a holl ddosbarthiadau a changhennau y WEA, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda. Y mae'r tymor wedi cychwyn yn neilltuol o dda ar y cyfan, fel arfer, ambell i ddosbarth yn baglu ac yn cwympo ac yn methu myned rhagddo, ond eithriadau prin iawn yw'r rheini. Cangen Wrecsam yn drwmlwythog o ddosbarthiadau tiwtorial a sesiwn. Y mae'n bleser cael ymweld â changen yn trefnu ei phro- gram o ddosbarthiadau; yn y cyfarfodydd hyn yr oeddwn bron yn gallu teimlo'r aelodau yn cymryd y straen ar eu hysgwyddau i fod yn gyfrifol am lwyddiant y dosbarthiadau. Oherwydd bod yno gangen gref a gweithgar, y mae'r gwaith yn ffynnu, ac y mae graen a sglein arno. Ym Mhrestatyn yr un modd, lIe ceir dosbarthiadau cryf a selog iawn. Rhaid imi ddweud fod arwyddion clir o adfywiad ym myd Addysg Rhai Mewn Oed, ond y maen tramgwydd ydyw diffyg grantiau i estyn ein cortynnau, ac i arbrofi mewn dulliau newydd. Yr oedd un dosbarth yng Nghemais wedi trefnu i gael cwrs ar Hanes yr Hen Destament, ac er mwyn rhoi cychwyn da iddo trefn- asant ddarlith gyda Dafydd ap Thomas, i roi hanes ei arhosiad sabothol ym Mhalesteina. Daeth yntau â stribed ffilm liwgar gydag ef, o'r lluniau a dynnwyd ganddo yno. Cafwyd noson ardderchog gyda'r ddarlith ddarluniadol odidog. Mae yna ddosbarth arall hefyd yno eleni i'r W.I., a Mrs Helen Ramage yn darlithio ar Hanes Môn. Yn Shotton, ar y llaw arall, ceir llawer o amheuaeth ynghylch y Farchnad Gyffredin, a neb yn siwr iawn o oblygiadau ymuno â hi. Ar gais aelodau Undebau y Gweithwyr Dur a Thrafnidiaeth, caf- wyd darlith feistrolgar gan J. Alun Thomas, o Goleg Bangor, ar "Gwleidyddiaeth y Farchnad Gyffredin". Daeth cynulliad da ynghyd, a threfnwyd i gael darlith arall ymhen wythnos neu ddwy, ar "Y Comisiwn Glo a Dur". John Howells, Coleg Harlech, fydd y darlithydd y tro hwnnw. A sôn am y Farchnad Gyffredin, cynhaliwyd ysgol ben-wythnos hynod o lwyddiannus i Undebwyr, yn Llangollen, ar Hydref 6 a 7, ag E. Cadvan Jones yn darlithio yno. Ar Dachwedd 3 a 4, bydd yna ysgol benwythnos arall i Undebwyr yn Llandudno, a'r maes y