Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH ELENI, y mae 92 o fyfyrwyr yn y Coleg, yn cynnwys 21 o ferched -nifer mwy o ferched nag erioed o'r blaen. Cawsom ddwywaith gymaint o ymholiadau eleni. Derbyniwyd 134 o fyfyrwyr, ond methodd nifer ddod, oherwydd diffyg grant neu arian, neu oherwydd eu derbyn i goleg arall, neu am resymau personol. Bu'r Ysgolion Haf fel arfer yn llwyddiannus dros ben. Daeth 307 o fyfyrwyr iddynt. Yn ychwanegol at hyn, daeth 488 o fyfyr- wyr i wahanol gynadleddau yn y Coleg yn ystod yr haf. Amgylch- iad arbennig yr haf hwn ydoedd teledu rhaglen ar y Coleg yn ystod yr Wythnos Gymraeg. Cymerwyd rhan gan y tri Warden. Y mae'n drydedd flwyddyn ar y Cyrsiau drwy'r post, ac eto eleni y maent yn gysylltiedig â Chyrsiau'r BBC. Y mae 250 0 fyfyrwyr yn dilyn y cyrsiau. Y tymor nesaf, gobeithiwn arbrofi yn fwy eang yn y maes hwn, a chynnig Cwrs ar Hanes Cymru yn y ddeunawfed ganrif. Oherwydd cynnydd yn yr ymholiadau, bu raid ymestyn yr ystafell fwyta dros dro. Ym mis Awst, ymddeolodd Miss Hughes, a phenodwyd Miss Alcock yn olynydd iddi yn Feistres y Ty, a Miss Ann Jones i'w helpu. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Miss Hughes am ei gwaith da dros y blynyddoedd, a dymunwn bob hapusrwydd iddi yn ei swydd newydd yn Aberystwyth. Yr ydym yn falch iawn o groesawu B. Barrett, o Goleg Ruskin a Phrifysgol Bryste, i'n plith yn hyfforddwr ym maes Perthnasau Diwydiannol. Dyfeisiodd John Shaw Gwrs newydd i'r myfyrwyr, fel astudiaeth ychwanegol at eu dau bwnc. Y mae'r Cwrs newydd yn ymwneud â gwahanol agweddau'r ugeinfed ganrif-gwyddonol, athronyddol, gwleidyddol, hanesyddol a llenyddol. Prif bwrpas y Cwrs fydd dangos undod syniadau, a rhoi dealltwriaeth fwy eang i'r myfyr- wyr. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Glyn Phillips, o Goleg Caer- dydd, am baratoi maes llafur, ac awgrymu darlithwyr inni.