Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY CYNHALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Rhanbarth yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, Ddydd Sadwrn, Hydref 20. Fel arter, yr oedd yn gynulliad cynrychiadol-yn cynnwys aelodau unigol o'r rhanbarth, a chynrycniolwyr canghennau'r WEA a'r cymdeithasau cysylltiedig. Ail-ethoiwyd Olive A. Wheeler yn Gadeirydd, a William King yn Is-Gadeirydd. Ail-etholwyd Brinley Thomas yn Drysorydd hefyd, a Len Williams, Castell Nedd, a Harry Evans, Llanelli, i gynrychioli'r Rhanbarth yng Nghyngor Canolog y WEA. Cyflwynodd Dame Olive yr Adroddiad Blynyddol, yn dangos cynnydd yn rhif dosbarthiadau ac yn rhif y myfyrwyr, o'u cymharu â'r tymor o'r blaen. Un peth calonogol oedd y cynnydd yn rhif y Dosbarthiadau Sesiwn a'r rhai Terminal Hirion. Cafwyd 36 Dos- barth Sesiwn yn para am 20 neu 24 wythnos, ac yr oedd cynnydd lled fawr yn rhif y Dosbarthiadau Terminal. Croesawodd y Cadeir- ydd y datblygiadau yn addysg Undebau Llafur-cyrsiau. arbennig i stiwardiaid siopau, a swyddogion eraill undebau llafur-ond rhy- buddiodd ni rhag ystyried y cyrsiau hyn yn "ddibenion ynddynt eu hunain". Yr oedd yn rhaid gwylied rhag rhai peryglon; gwir bwrpas addysg a phwrpas y WEA, oedd nid hyfforddi gwell swydd- ogion, er mor werthfawr oedd hynny, ond yn hytrach helpu dat- blygiad amlochrog unigolion, hyd at eithaf eu posibilderau. Rhaid i'n cynlluniau mewn Addysg Undebaeth Lafur ddilyn yr egwydd- orion addysgol a arweiniodd y WEA ar hyd y blynyddoedd. Gwerthfawrogwyd y rhybudd hwn oddi wrth y Cadeirydd yn fawr iawn. Cafwyd trafodaeth dda ar yr Adroddiad ar waith y flwyddyn, a rhoddwyd clod i weithgarwch cynorthwywyr gwirfoddol y mudiad. Teimlwyd pryder ynghylch safle ariannol y rhanbarth, gan fod y galwadau sydd yn ein hwynebu mor drymion. Fe wneir ymdrech- ion dygn yn ystod y sesiwn hwn i chwyddo incwm y Rhanbarth, i gyfarfod, nid yn unig â chostau'r flwyddyn, ond hefyd â'r ddyled o £ 2,000 sydd yn pwyso arno. Gofynnwyd i'r Awdurdodau Addysg lleol godi eu cyfraniadau, ac addawodd ein canghennau wneud popeth a allant i chwanegu at eu cyfraniadau i'r Rhanbarth. Ar wahan i faterion ariannol, y mae'r rhagolygon am y tymor a gychwynnodd ychydig wythnosau'n ôl yn addawol iawn; y mae'r