Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

30 Dosbarth Sesiwn wedi setlo i lawr i'w gwaith, a'r Dosbarthiadau Terminal yr un modd. Yr oedd Ysgol Fwrw Sul gyntaf y WETUC yn llwyddiant nod- edig; daeth dros 80 o fyfyrwyr iddi. Astudiodd un grwp o 45 "Adroddiad Pilkington", a'r llall "Undebau Llafur a Chyfnewid- iadau mewn Diwydiant". Rhoes Keith Jackson sgwrs ragarweiniol gampus ar Adroddiad Pilkington, a dilynwyd ef gan Lyn Evans, swyddog hysbysrwydd y TWW, a Rowland Lucas o'r BBC. R C. Mathias, Ysgrifennydd Rhanbarth y TGWU, a Glyn Morris, Cyfar- wyddwr Cymdeithas y Cyflogwyr Peirianwyr, oedd y ddau ddar- lithydd i'r rhai oedd yn astudio Cyfnewidiadau Diwydiannol. Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Tachwedd 3-4, cynhaliodd Brinley Thomas Ysgol Fwrw Sul y WETUC yn Ninbych-y-Pysgod ar "Y Farchnad Gyffredin", ac ymhen wythnos, Tachwedd 10-11, bydd G. W. May- nard, Darlithydd hyd yn ddiweddar yn Adran Economeg Coleg y Brifysgol, Caerdydd, ond sydd yn awr ar staff y Cyngor Datblygu Economig Cenedlaethol (NEDC), yn athro yn yr Ysgol Fwrw Sul ym Mhorthcawl. Rhydd ef gyfres o sgyrsiau ar waith yr NEDC. Bydd grwp o undebwyr ifainc yn ymgynnull, Tachwedd 17-18, yn hen Faenordy Cil-frwch (Kilvrough), Penrhyn Gwyr, am Gwrs Fwrw Sul ar "Makers of Modern Thought"; Gwyn Illtud Lewis, Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol, Abertawe, fydd y Darlithydd. Ac yn olaf, llongyfarchiadau i Miss Margaret Davies, Ysgrifennydd Cangen Mynyddmawr, a holl aelodau'r gangen, ar y cyfarfod llwyddiannus iawn a drefnwyd ganddynt i wrando ar R. Tudur Jones yn darlithio ar "John Penri". Pan Ddêl Mai, drama un act, gan Gwilym T. Hughes. Gwasg Gomer. 2/6. Ffars ydyw hon, wedi ei gwau o gylch Dafydd ap Gwilym, yn y cymhlethdod a ddaeth arno gyda'i drindod o gariadon, Gwenllian, Morfudd a Dyddgu. Gwobrwywyd hi yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1960. Y mae Dafydd druan, yn ei ddiniweidrwydd, yn methu â gweld ei fod, wrth garu dwy neu dair," yn prysur nyddu rhaff i'w grogi ei hun. Yr un yw gwres ei gariad, yn ôl ei gywyddau, at y Tair, a daw'r Ffars yn rymus ac yn ffyddiog drwy eu dwyn ger ei fron yr un pryd, a phob un yn taeru mai ei heiddo hi ydyw. Dylid cael hwyl gyda'r Ffars hyfryd hon. T. ALBAN DAVIES