Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDD A Eilw ar Ddyfnder, Selyf Roberts. Gwasg Gee, 15/ Colofnau Wil Ifan, Wil Ifan. Gwasg Gomer, 7/6. Cloben braf o nofel ydyw A Eilw ar Ddyfnder gan Selyf Roberts, a chystal dweud ar y dechrau mor hyfryd ydyw gweld nofel o faint hon rhyw 313 o dudalennau yn Gymraeg. Ei thema ganolog ydyw'r frwydr oesol i gadw'r "etifeddiaeth" Gymraeg yn wyneb y llif estron sy'n ei bygwth o bob tu, a Duw a wyr, y mae gan thema o'r fath arwyddocâd arbennig i bob Cymro gwerth ei halen y dydd- iau hyn. Ychydig yw rhif y cymeriadau pwysig ynddi rhyw hanner dwsin a'r arwyr yn ddau efaill o Gymry twymgalon yn dwyn yr enwau Robert a Dilwyn Wyn. Tirfeddiannwr o Sais, Cyril Liver- sand, ydyw'r dihiryn, gyda Sgotyn o'r enw Maddock yn gi bach iddo. Erys Brenda am ddarn helaeth o'r nofel yn dipyn o broblem, ond gwelir cyn y diwedd fod gwreiddyn y mater ganddi. Y mae'n wir y gellir dweud nad yw'r cymeriadau wedi eu por- treadu'n fyw iawn y maent yn ormod o deipiau ond mewn nofel o fath hon sy'n dibynnu cymaint ar ddigwyddiadau ni ddylai hynny fod yn faen tramgwydd. Eto i gyd, gellir dadlau fod y brodyr Wyn yn rhy wyn a'r dihiryn Liversand yntau yn rhy ddu ei gymer- iad i fod yn gwbl gredadwy. A beth am y digwyddiadau? Y mae yma ddigon ohonynt i foddio'r darllenydd sy'n hoffi stori a thipyn o fynd ynddi, ac ar wahân i dipyn o felodrama hwnt ac yma fe'u hadroddir yn ddigon meistrolgar i gyflymu tipyn ar guriad y gwaed. Eithr erys amheu- aeth. Er enghraifft, a fyddai prifathro parchus fel Robert Wyn yn barod i weithredu'n hollol fel y gwnaeth, ac onid oes mewn mannau yn y nofel dipyn o ôl y Deus ex Machinal Un peth, serch hynny, a'm bodlonodd i oedd canfod nad oedd yr awdur yn amcanu at fod yn ymwybodol lenyddol wrth sgrifennu. Hynny yw, ni fwriadodd, hyd y gellir barnu, sgrifennu'r math arben- nig ac annelwig hwnnw o lenyddiaeth a elwir yn llenyddiaeth fawr. Canlyniad hynny yn rhy aml yw bod awdur yn tindroi cymaint wrth gaboli ei arddull ag i wneud ei waith yn ddiflas i'w ddarllen ac yn llenyddlyd, (os caniateir bathu erthyl o air i fod yn gydymaith i "barddonllyd"). Cafodd y nofelydd hwn hwyl ar adrodd ei stori, a chawn ninnau hwyl wrth ei darllen. At ei gilydd, beth bynnag, llwyddodd yr awdur i greu stori afael-