Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gar, ac os ydych am dreulio ychydig nosweithiau difyr y mae'n werth i chi ei darllen. Os digwydd i chi deimlo rywbryd fod pym- theg swllt yn bris go hallt i dalu am nofel Gymraeg, credaf y synnech cyn lleied o nofelau Saesneg o faint hon a gewch am gini o leiaf. Esbonnir mewn Rhagair byr i Colofnau Wil Ifan mai "colofnau papur: colofnau papur-newydd" ydynt; ac ni byddai'n deg eu beirniadu o unrhyw safbwynt ond hynny. Dau o anhepgorion colofnau o'r fath yw eu bod yn fyr^ac yn flasus. "Pan ystyriom y cynhwysir 32 o'r erthyglau hyn mewn tua 75 0 dudalennau nid oes angen athrylith o fathemategydd i ganfod eu bod o leiaf yn fyr. Rhyw ddau dudalen yr un yw eu cwmpas. Cyn gorffen y ddwy neu dair cyntaf gwelir hefyd eu bod yn hynod o ftasus. Fel y gweddai i bytiau papur-newydd y mae'r testunau yn amrywio o Twm Siôn Cati i Hen Bregethau testunau achlysurol yn codi o ryw brofiadau a gafodd bardd-bregethwr ar ei deithiau. Oherwydd bardd y delyneg ysgafn sy'n siarad â ni yma, a phre- gethwr y bregeth felys gyda'i fynych gyffyrddiad o hiwmor. Llyfr ydyw hwn y gellwch ei ddarllen a'i fwynhau b'le a phryd y mynnoch mewn bws neu drên, neu ar gadair esmwyth o flaen y tân pan fyddoch wedi syrffedu ar ymgodymu â phethau trymach. W. LESLIE RICHARDS Magdalen a Cherddi Eraill, gan E. Gwyndaf Evans. Gwasg Gomer. 9/6. Yn y gyfrol hon ceir adlais o'r gwrthdaro yn y tridegau rhwng cefnogwyr "yr-hyn-a-ddylai-awdl-fod" a phleidwyr "rhaid-symud- o'r-hen-rigolau". Prin fod gan neb ddiddordeb byw yn y ddadl erbyn hyn (yn y ffurf yna arni, beth bynnag), ond y mae iddi, serch hynny, arwyddocâd amlwg-ei chysylltiad â'r arbrofion a wnaed i ieuo ynghyd y gynghanedd a'r wers rydd. Cafwyd ffrwyth yr arbrawf cyntaf yn Eisteddfod Gyd-golegol Prifysgol Cymru 1934, sef cerdd E. Gwyndaf Evans Deirdre'r Gofidiau, eithr ni dduodd y nefoedd o ddifri uwchben y bardd hyd nes iddo ennill ar ei gerdd Magdalen yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon y flwyddyn ddilynol. Heddiw, wedi cilio o'r cymylau, gellir dweud un peth yn eithaf hyderus bu'r arbrofi a roddodd fod i'r wers rydd gynganeddol yn llwyddiant fel y tystia Y Dwymyn a Byd a Betws, heb sôn am