Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crwydro Blaenau Morgannwg, gan Gomer M. Roberts. Llyfrau'r Dryw. 18/ Dyma'r drydedd-ar-ddeg o'r cyfrolau yn y gyfres, Crwydro Cymru, a'r gyntaf o'r tair a fydd yn cyflwyno Sir Forgannwg inni. Y crwydrwr y tro hwn yw Gomer M. Roberts, brodor o Sir Gaer- fyrddin, a dreuliodd rai blynyddoedd yn weinidog yng Nghlydach a Phont-rhyd-y-fen, ac y mae'n amlwg fod ei wybodaeth o gymoedd diwydiannol Morgannwg, a'i ddiddordeb ym mywyd eu trigolion, yn helaeth iawn. Trwythodd ei hun yn hanes lleol y cymoedd hyn; daeth i adnabod eu ffyrdd a'u llwybrau, ac i wybod am arferion eu pobl a'u -dulliau o fyw, ac y mae ganddo gydymdeimlad â'u prob- lemau-o beryglon bywyd y glowr a thlodi cyfnod y dirwasgiad hyd yr argyfwng sy'n wynebu'r iaith Gymraeg yno heddiw. Daw'r rhain i gyd i'r amlwg yn ei lyfr, i greu portread manwl a diddorol o'r ardal ddiwydiannol hon. Un gwyn fach sydd gennyf mewn cyfrol mor ddiddorol, sef fod y gorffennol yn tueddu i foddi'r presennol ynddi. Er enghraifft, cymerir y darllenydd i Bontypridd tua chanol t. 72 gyda'r geiriau: "Y peth cyntaf y mae pawb am ei weld ym Mhontypridd yw'r bont enwog dros Afon Daf", a dyna ni ar ein hunion ym Mhontypridd fel yr oedd yn 1746, ac yn y gorffennol yr arhoswn hyd nes cyrraedd t. 76, lle y tynnir ein sylw at Barc Ynys Angharad, ac yna yn ôl drachefn i'r gorffennol tua chanol t. 77. Ac felly ymlaen. Braidd yn annheg, efallai, yw beirniadu fel hyn, oblegid y mae hanes didd- orol i'r Bontypridd a fu, ond ar yr un pryd teimlaf y carwn weld mwy o gyfeiriadau at y sefyllfa fel y mae heddiw. Rhyw deimlo yr wyf yma ac acw nad yw'r awdur yn hoff iawn o'r hyn a wêl ym mhresennol yr ardal y crwydra drwyddi, a'i bod yn anodd ganddo ymroi at y gwaith o'i disgrifio yn uniongyrchol; gwell ganddo led-awgrymu nad yw pethau heddiw fel y dylent fod-megis ar t. 94-95, lle y mae sôn am weinidogaeth J. J. Williams ym Mhentre Rhondda 'slawer dydd, ac yn dyfynnu darn o'i gân, Dai-"Ond yfws e ddim, whare teg i Daî"— ac yha, mewn cromfachan. y sylw­-"yn wahanol i lawer Dai heddiw". Ond efallai na ellid disgwyl yn amgen, oblegid y mae'n amlwg nad yw bywyd ym Mlaenau Morgannwg yr hyn a fu, ac i Gymro Cymraeg fel Gomer Roberts ni all y newid lai ha bod yn destun tristwch. O gofio am y Gymreictod a fu, y bywyd llenyddol cyfoethog a flodeuodd yn y cymóedd hyn, am gyhoeddiadau Gwasg Argraffu Aberdâr, lle y cyhoeddwyd am flynyddoedd y papur gwer-