Skip navigation

Lleufer

 - 

Cyf. 18, rh. 4 Gaeaf 1962

Rhwng cyrn yr aradr. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
inol hwnnw, Tarian y Gweithiwr, ni allwn beidio â theimlo fod
pethau wedi mynd ar i waered fel y mae'r iaith yn dirywio ynddynt.
Gobeithio y bydd llawer o ddarllen ar y gyfrol hon, yn enwedig
yn y Gogledd, oblegid teimlaf yn aml fod y Gogledd heddiw yn.
hynod o anwybodus am y De­-a’r De am y Gogledd. Er bod traf-
nidiaeth yn rhwyddach heddiw, y mae llai o gyfatthrach rhwng De a
Gogledd nag a geid pan oedd yn rhaid dibynnu ar yr hen drên neu
geftyl a cherbyd. Y mae'n wir fod pobl yr Eisteddfod a gwyr y
radio a'r teledydd yn mynd a dod yn weddol gyson, ond ni cheir
cymaint o symud yn ôl a blaen rhwng y bobl gyffredin.
Pan oedd cymoedd glo y De yn datblygu, edrychai tlodion y
tyddynnod a gwyr di-waith y chwareli a mwynfeydd plwm y Gog-
ledd ar Gwm Rhondda, a Senghennydd a chymoedd Garw ac Ogwr,
fel rhyw El Dorado, lle y ceid gwaith am gyflog sylweddol, a
thyrrent yno yn heidiau i gael bywoliaeth. Yn y cyfnodau hynny,
yr oedd gan bron bawb yn y Gogledd ewythr, neu fab neu gefnder,
a'u teuluoedd yn byw i lawr yn y Sowth; a deuai rhai o'r rheini i
fyny i'r Gogledd am dro, neu, yn aml, i ddiweddu eu hoes yn eu
hen gynefin.
Yn y dyddiau hynny, yr oedd enwau lleoedd yn y De ar flaen
tafod trigolion y Gogledd, ac fe wyddai pobl y De yn burion am
fannau yn y Gogledd; ond nid felly heddiw. Daeth terfyn ar ffyniant
glofaol y De, ac yn y tridegau ymfudiad gweithwyr o'r De i Loegr
i chwilio am waith a gafwyd yn lle mewnfudiad Northmyn yno í
gael bywoliaeth. Ac o'r cyfnod hwnnw hyd heddiw, pellhau a
wnaeth y ddwy ran o Gymru oddi wrth ei gilydd. Gobeithiaf, felly,
y gwna cyfrol Gomer Roberts les i ni yn y Gogledd, drwy ein
hatgoffa fod Cymru'n cynnwys Sir Forgannwg hefyd, a bod y sir
hon wedi bod yn fawr ei chyfraniad i'n diwylliant ni fel cenedl, ac
y gall roi arweiniad inni eto yn y dyfodol.
C. R. WILLIAMS
Rhwng Cyrn yr Aradr, gan J. R. Jones. Gwasg y Dryw. 6/
Pan ddarllenais eiriau canmoliaethus y cyhoeddwyr ar y blurb
yr oeddwn yn amheus, ond wedi darllen ychydig o'r caneuon yn y
llyfr hwn penderfynais fy mod yng nghwmni bardd o'r iawn ryw,.
ac y mae blas y tir a'r wlad yn drwm ar lawer o'r cerddi.
Yn ôl y rhagymadrodd, hen yw'r thema, ond cefais mai "Er yn
hen, yn ieuanc fyth" y mae, megis y gwanwyn. Mwynheais Oriel
Addolwyr, a hefyd Yr Etifeddiaeth: <
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.