Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clirio wna'r eira claerwyn fe ddaw'r haf, Fe ddaw'r wyl i Benllyn; Fe ddaw'r dail, fe ddaw'r delyn, Ni ddaw Llwyd dros Ffridd y Llyn. Swynwyd fi gan englynion Gwilym R. Jones i Fynydd Tryfan er pan welais hwy gyntaf. Y maent yn wych odiaeth. Credaf fod Gwilym R. yn well bardd yn ei ganu caeth, er imi hoffi hefyd rai o'i gerddi rhydd yn fawr iawn, megis Yr oeddym ni Yno; Pan af at fy Nhadau. Yn ei ganu mwy modern cawn ambell drawiad i'n synnu: Anadla cenhedlaeth newydd I wrando â'u nerfau. neu A thoc daw cap tebot y nos I guddio'r patrwm ar y potyn. Gwych iawn hefyd yw'r englyn i'r Wraig Hael, ac onid gwell a fai bod wedi cadw ffurf wreiddiol y blodeuyn dahlia yn Carai Flodau? Nid wyf yn sicr o gwbl o ganu Rhydwen Williams, ac yn fy myw ni fedraf weld nad yw'n canu yn llac a diafael ar adegau. Credaf mai fflat yw pethau fel: Yntau ar ôl ei ddiwrnod gwaith Yn troi i'r ardd am awr neu ddwy. Yna— i Foreia erbyn saith i'r Seiat a'r Cwrdd Gweddi A noswylio yn swn gweddi ac emyn. A oes angen bardd i droi allan linellau felly, deudwch? Ond y mae'n hollol glir a dealladwy ymhob un o'i gerddi, ac y mae rhai pethau yn gafael hefyd. Hoffais y gerdd i Tom Nefyn, a'r rhai dan y teitlau, Wedi'r Wyl, Gwraig Lot, Moduro. Dyma bennill i sylwi arno: Beth pe teimlet, Gristion diogel, Rywdro ar dy rawd, Yn lle'r llygaid dwyfol arnat Ei anfeidrol fawd. Y mae'r llyfr hwn yn sicr o roi mwynhad i'r prynwr am amryw resymau, ac un yw'r amrywiaeth fawr a geir ynddo. Hoffwn fod wedi gweld ymhob un o'r cyfrolau fwy o nodiadau, canys nid yw'n deg disgwyl i bawb fedru deall cyfeiriadau Lladin. Almaeneg, neu Roeg. D. T. WILLIAMS