Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trem ar Rwsia a Berlin, gan Kate Bosse Griffiths. Gwasg Gomer. 10/6. Ceir yn y llyfr diddorol a gwerthfawr hwn hanes taith Kate Bosse Griffiths a'i gwr, J. Gwyn Griffiths, i Berlin a Moscow, gyda gwib i Leningrad. Aethant yno yn 1960 i gymryd rhan yng Nghyngres Ryngwladol yr Orientalwyr, ac i fodloni chwilfrydedd a chael gwyliau yr un pryd. Dewiswyd ganddynt drafaelio yn y dosbarth "caled", a bod bron yn annibynnol ar letygarwch swyddogol. Yr oeddynt hefyd am chwilio a chwalu drostynt eu hunain, heb gymorth lladmerydd y Swyddfa Ymwelwyr. Cawsant ryddid i grwydro fel y mynnent (a cholli eu ffordd yn y fargen), ond ar wahân iddynt fedru ymdroi mwy yn y Cremlin a lleoedd eraill nag a gawsent pe baent gyda pharti, a samplo caffe o safonau amrywiol, ni welaf eu bod wedi manteisio llawer ar fod yn gymaint o unigolyddion. Wedi ymwrthod â lladmerydd, rhaid oedd dibynnu ar daith- lyfrau, ac y mae Mrs Griffiths yn rhy barod i roddi i'w darllenwyr gyfieithiad Cymraeg o dalpiau o daithlyfrau a llyfrau eraill. Hoffais ei chyfieithiadau o ddarnau o farddoniaeth, a hefyd yr erthygl o Crocodil-Pwnsh Rwsia, ond gallaswn hepgor llawer o ddyfyniadau eraill am ragor o argraffiadau personol, o'r Gyngres, o daith yn y Metro, o berfformiad Opera yn y Bolshoi, ac felly ymlaen. Oherwydd y mae gan Mrs Griffiths ddawn i weled a disgrifio troeon trwstan, arferion cymdeithasol a golygfeydd naturiol, ac yn enwedig adeiladau. Caiff ei darllenwyr agoriad llygad wrth ddarllen sut syrcas ydi teithio dosbarth "caled" mewn trên yn Rwsia. Y mae'r penodau ar Brifysgol Moscow, "adeilad gor-uchel a gor- lydan", ar eu "Bara Beunyddiol", ac ar siopau a siopio, yn ddi- ddorol iawn, a chefais flas neilltuol ar ei hesboniad paham fod Gym (siop bob peth sydd yn hyn na'r Chwyldro) yn ffinio ar y Sgwâr Coch, ac yn gymydog agos i Eglwys St Soffía ysblennydd, ac i'r Cremlin. Ceir pennod odidog ar y Cremlin, sydd ar yr un pryd yn "afreal", "fel breuddwyd lleian o'r Gaersalem nefol", ac yn "bencadlys y byd Marxaidd". Dengys y disgrifiad yma ymdeim- lad ag awyrgylch a gwelediad artist a hanesydd yr un pryd. Os oes rhai o ddarllenwyr Lleufer yn bwriadu myned am dro i Rwsia, dyma deithlyfr fydd yn gymorth effeithiol iddynt i wneud y gorau o'u hamser yno. Y mae'r darluniau a'r mapiau gyda'r goreuon a