Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

welais mewn llyfr o'r fath. Os aros adref fydd eu rhan, dyma wobr gysur iddynt, ac anogaeth gennyf i gnoi cil ar sylwadau a barnau sydd yn gwneud y llyfr yn rhywbeth llawer mwy na theith- lyfr. EMRYS JENKINS Y Portread, gan T. Ellis Jones. Gwasg Gomer. 9/6. Yn ei Ragair sonia'r awdur am "yr angen i ymgydnabyddu o'r newydd â dysgeidiaeth ein Harglwydd, a rhoi llawer mwy o sylw i'r Foeseg Gristionogol". Gesyd y Bregeth ar y Mynydd yn sail i'r Foeseg hon, gan ei thrafod megis o gymal i gymal, a'r rhain yn destun nifer o bregethau sy'n egluro hanfod y Foeseg. Cytunwn yn galonnog fod mawr angen yn y dyddiau blin hyn am gyfrol fel hon, a llongyfarchwn y Prifathro yn ei ymdrech dda i gyflenwi'r diffyg. Y mae'r teitl, Portread, yn awgrymu cyfanrwydd cymeriad Cristionogol, ond credaf y buasai Yr Arwriaeth Fawr (t. 75) yn rhagori, canys golau'r Arwriaeth Fawr sy'n torri ar bob tudalen; y mae'n gas ganddo'r syniad mai rhywbeth meddal a simsan ydyw'r bywyd Cristionogol. Fe wêl y tyndra bygythiol sydd rhwng Crefydd a Gwyddoniaeth, a hon mewn bri fel cynhyrchydd cyfoeth di-ben-draw, gyda'i foddogrwydd anochel, ac fe wêl hefyd yn hyn oll ben a chalon yn ymgodymu â'i gilydd. "Y mae Duw yn rhy fawr i'w wasgu i osod- iadau logic; â'r galon, nid â'r deall, y mae ei weled Ef". Dyna osodiad enwog Howell Harris, fod yr hen Ymneilltuwyr yn pregethu â'r deall a'r Diwygwyr yn pregethu â'r galon. Dichon fod grym yn yr haeriad pan yw'r oedfa yn ei llif, ond peth arall ydyw gweld y gosodiad mewn print oer, gan fod yr emosiwn cyn- haliol wedi cilio. Y mae nifer o'r pregethau ar gael fel y'u traethid, yn yr ail berson, ond y mae'r gynulleidfa wedi cilio, gan adael y darllenydd mewn math ar niwl, os na fynn dybio ei fod oddi mewn i gylch y clywed. Ond y mae gwahaniaeth rhwng darllen a chlywed, a chredaf y dylid fod wedi canu'n iach â'r gynulleidfa. Rhaid cydnabod hefyd yn y darllen fod y tân yn llosgi yn esgyrn yr awdur, a'i fod trwy'r llyfr yn anelu at gyrraedd y gynulleidfa nad yw ar gael yn y seddau, a gwasgu ar honno relefans Moeseg yr Efengyl i weddnewid eu bywyd. Creu argyhoeddiad yw amcan y bregeth, ac ni ddylai mewn print ymddangos yng ngwisg y llenor.