Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

felly gywiro'r cam hwn drwy fynd ati o ddifrif i gyflenwi'r diffyg. Tasg fawr yr Eglwys, felly, ydyw chwilio am y ffordd yn ôl i ganol bywyd y gymdeithas. Dichon fod yr awdur wedi ei ddal ormod gan gefndir y wlad, a chofio amdano ei fod yn un o fechgyn rhagorol Sir Fôn, ond y mae ei elfeniad o'r sefyllfa yn gwbl wir hefyd am yr ardaloedd diwydiannol, lle y mae'r boblogaeth fawr ar gael, ac eto yr un pall a'r un diystyrwch i'r diwylliant ysbrydol. 'Rŷm oddi mewn i gyfnod pan yw'r dyn ifanc yn ymwrthod â'i hen etifeddiaeth, ac yn ei gollwng o'i afael fel hen siwt ei dad, neu hen ffroc ei fam, "oes mor ddreng, a Duw ar drai ar orwel pell". Rhaid diolch yn gynnes i'r awdur praff am elfennu Addysg Seciwlar Fodern, ei gosod yn y glorian a'i chael yn ofnadwy o brin, yn wyneb ei methiant amlwg i feithrin bywyd llawn a chyfan plant Cymru heddiw. T. ALBAN DAVIES RHAI O AWDURON Y RHIFYN Y PARCH. T. ALBAN DAVIES, Ton Pentre.-Athro Dosbarthiadau. W. R. OwEN (Bodwyn), Caerdydd.-Cyfrannwr cyson i gyfnod- olion Cymru. W. LESLIE RICHARDS.—Prifathro Ysgol Ramadeg Llandeilo; awdur y nofelau, Yr Etifeddion, Llanw a Thrai, a Cynffon o Wellt, a'r llawlyfr, Ffurfiau'r Awen. EDWIN WILLIAMS.—Darlithydd yn y Coleg Normal, Bangor; Beirniad Drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol. H. R. WILLIAMs.-Darlithydd yn Ysgol Amaethyddol Glynllifon; Ysgrifennydd Dosbarth WEA Groeslon, Caernarfon.