Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cvf. XIX HYDREF 1963 Rhif 3 NODIADAU'R GOLYGYDD BYTH er pan oeddwn yn blentyn, y mae gennyf ddiddordeb yn hanes y bobl dduon yn America, effaith darllen Caban F'Ewyrth Twm, y mae'n ddiamau, neu yn hytrach ddarllen ei gynnwys yn Aelwyd F'Ewythr Robert Gwilym Hiraethog. Sonnir yn hwnnw am lyfr arall gan yr un awdures, Harriet Beecher Stowe, sef The Key to Uncle Tom's Cabin, yn rhoddi tunelli o ffeithiau i gadarnhau cywirdeb yr hanes, ac ynghwrs amser cefais gopi o'r llyfr hwnnw hefyd, a dysgu llawer iawn oddi wrtho. Meddyliais am rai o'r pethau hyn pan ddarllenais am ddau ddigwyddiad yn agos i'w gilydd ddiwedd y mis diwaethaf (mis Awst), sef gorymdaith fawreddog ac urddasol a heddychol tyrfa enfawr o bobl dduon i Washington, prifddinas yr Unol Daleithiau, i hawlio yr un manteision addysg a'r un breintiau dinesig â'r bobl wynion; a marwolaeth William Edward Burghardt Du Bois yn Ghana, yn 95 mlwydd oed. Cyhoeddwyd ysgrif amdano ar dudalen ganol y Guardian, o dan y teitl, Prophet of Pan- Africanism." 'Wyddwn-i ddim ei fod yn fyw. Ysgolhaig a gŵr gradd oedd Dr Du Bois, a llenor coeth; y mae ei lyfr pwysicaf, The Souls of Black Folk, gennyf er y flwyddyn 1910, ac y mae'n llyfr swynol iawn i'w ddarllen. Sylfaena'r bobl dduon eu hawl i gydraddoldeb ar Gyfansoddiad Llywodraeth yr Unol Daleithiau, "Daliwn fod y gwirioneddau hyn yn hunan-amlwg-fod pob dynion wedi eu geni yn gyd- radd Thomas Jefferson oedd awdur y geiriau hyn, a'r rhan fwyaf o'r Cyfansoddiad; ymladdodd yn galed i roi cymal i mewn yn gwarafun cadw caethweision, ond methodd yn y peth hwn. Dywedodd yn ei hunan-gofiant fod traddodiad yn nheulu ei dad fod ei hynafiaid yn hanfod o droed yr Wyddfa, yng Nghymru." Yn ôl H. G. Wells: Ef oedd y mwyaf a'r doethaf o Arlywyddion America; yr oedd yn fwy ei allu meddyliol na Washington na Lincoln na Roosevelt." Daeth rhywfaint o ryddid i bobl dduon America yn ystod y Rhyfel Cartref rhwng Taleithiau'r Gogledd a'r De yn 1861-65.