Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFARFOD A CHYMRY TRAMOR Gan BEN BOWEN THOMAS PAN oeddwn yn fachgen, ymddangosai'r byd yn llawn o Gymry. Mae'n wir fod Ystrad Rhondda, lle y magwyd fi, wedi ei gau i mewn ym Mlaenau Morgannwg-ynghanol y mynyddoedd — ond nid oedd allan o'r byd. Drigain mlynedd yn ôl, yr oedd pobl yn dal i dyrru yno. Yr oeddem yn y byd mawr llydan, yn ddigon siwr, a phan âi'r glowyr ar streic yr oedd eu Heisiau'n atseinio drosto. Aeth llawer o'n pobl ni ein hunain hefyd tros y môr. Erbyn fy amser i, yr oedd hyn wedi bod yn mynd ymlaen am ddwy genhedlaeth. Yr oedd gan fy nain ar ochr fy nhad chwaer yn Wilkesbarre, a brawd yn Bendigo. Yr oedd gan fy nhaid ar ochr fy mam chwaer yn Ninas y Llyn Halen, a chefnder a oedd newydd ddyfod adref o Batagonia. Yr oedd gan fy nhad ddau frawd yn Cranbourne, tu allan i Melbourne, ac yr oedd un o frodyr fy mam wedi treulio'r rhan fwyaf o ddwy flynedd yn Kimberley. Deuai'r postmon â llythyrau inni o bedwar ban y byd, a phostiwn innau'r atebion iddynt yn ffyddlon ac yn ddisgwylgar. Heblaw hynny, lIe croesawus iawn oedd fy nghartref. Byddai rhai o'r perthynasau hyn wedi dychwelyd o'r gwledydd tramor ac yn aros gyda ni. A thu allan i gylch y teulu, byddai croeso bob amser yn ein tŷ ni i genhadon ar eu gwyliau. Yr oedd y gweinidog a fedyddiodd fy mam yn Agra-dinas y Taj Mahal. Gwyddem fwy am India a'r Congo nag a wyddem am Sgotland ac Iwerddon. Cofiaf Eluned Morgan o Batagonia yn aros gyda ni, merch hardd a rhywfaint o hud Tywysoges y Tylwyth Teg o'i chwmpas. Felly yr ymddangosai i fachgen deg oed, beth bynnag. A mwy na hyn, byddai cyngherddau ffarwel beunydd yn festri rhyw gapel neu'i gilydd, i ganu'n iach i bobl ifainc a oedd yn hwylio i'r Unol Daleithiau, Awstralia, New Zealand neu Canada, rhai ohonynt yn gyfoedion imi yn yr ysgol. Ymadawem â hwynt â thristwch yn gymysg ag edmygedd. Onid oeddynt yn cychwyn allan ar antur fel yr anturiaethwyr gynt? Gwelai rhai hŷn na ni eu lleoedd gweigion yn yr Ysgol a'r côr yn cael eu llenwi gan ddigon o blant eraill o'r teuluoedd mawrion, ac o blith y dyfodiaid o Ogledd a Gorllewin Cymru yn arbennig. Nid oedd yno ddim o iselder digalon y tridegau. Colledion am byth oedd hi y pryd hwnnw, heb obaith am adfer y colledion.