Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

swynol, a'n cyfarch yn Gymraeg. Prifathrawes Ysgol Uwchradd y Merched Hynaf yn Istanbwl ydoedd, Miss Gwyneth John, o Sir Gaerfyrddin, wedi graddio yn Aberystwyth. A fuasech-chwi'n coelio? Ni ellwch byth ddweud i b'le y bydd merched Cymreig yr oes hon yn gwthio'u ffordd, na pha fodd chwaith, o ran hynny. Yr oedd Miss John wedi gyrru ei char ar ei phen ei hun bob cam o Gaerfyrddin i Istanbwl! Dyna ichwi ferch annibynnol! A hynny mewn gwlad IIe nad yw hawl merched i gydraddoldeb ond newydd gael ei gydnabod. Tref brydferth, ynghanol bryniau Jordan, ydyw Ramallah. Yno rhoes y Gweinidog Addysg groeso inni yn y Coleg Hyfforddi- adeilad modern wedi ei ddodrefnu'n dda. Dywedodd un o Oruch- wylwyr y Coleg wrthym ei f od yn Gadeirydd ysgol fechan breifat i blant isel eu breintiau-yma yn Ramallah-a bod y Brifathrawes a'i phrif Athrawes Gynorthwyol wedi dyfod o Gymru. Gofynnais ar unwaith am gael cyfarfod â hwynt. Trefnwyd iddynt ymuno â ni i ginio-Miss Thomas o Ddowlais a Miss Morgan o Gwmbwrla — a ysbrydolwyd gan yr addysg a gawsant yng Ngholeg Beiblaidd Abertawe i'w cysegru eu hunain i wasanaethu plant digartref a chrwydrol Jordan-a Duw a wyr fod digon ohonynt. Ymgyrch ddewr ac uchelfrydig yw eu hymgyrch hwy; edmygir hwy yn ddifesur gan yr awdurdodau yn Jordan, a gwerthfawrogir eu gwaith gan laweroedd. Y mae eu haberth anhunangar er mwyn y plant angofiedig hyn yn olyniaeth wir y credinwyr Cristionogol. Gall fod y bachgen hwnnw yn y Rhondda hanner can mlynedd yn ôl, neu fwy, yn methu wrth gredu fod y byd yn llawn o Gymry. Ond erbyn heddiw y mae wedi darganfod fod yna beth wmbredd ohonynt. Ac mai hwyl a llawenydd mawr ydyw cyfarfod â rhai ohonynt pan fydd ymhell oddi cartref! (Trwy garedigrwydd y BBC) Dyma ddam o lythyr gan Daniel Owen at Isaac Ffoulkes, Mawrth 15, 1892, wedi iddo ddechrau ar ei nofel, Gwen Tomas, yn dangos ei ddull o weithio. Gofynwch pa fodd y mae y nofel newydd yn dod ymlaen? Sâl. Hyd yn hyn, nid oes lliw na llun nofel arni; Yr wyf wedi ysgrifenu amryw ddesgrifiadau o gymeriadau ac amgylchiadau, ond nid oes gennyf eto idea sut i'w cylymu â'u gilydd, nac un dychymyg sut i roi ffurf stori amynt.