Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYMRAEG YN SAIN NICOLAS Gan W. MORGAN-RICHARDS YN Nodiadau'r Golygydd" yn LLEUFER, rhifyn Gwanwyn 1963, y mae cyfeiriad at bentref Sain Nicolas, ym Morgannwg, ryw bum milltir o Gaerdydd, yn troi o fod yn bentref Cymraeg i fod yn bentref Saesneg mewn un genhedlaeth ac yna'n bentref Cymraeg yn ei ôl mewn cenhedlaeth arall". Gan fod y cyfle i gael y stori gan Griffith John Williams wedi ei golli er mawr golled i ni i gyd ymgeisiaf innau roi'r hanes. Hanes llwyddiant eithriadol mewn dysgu'r Gymraeg i blant uniaith Saesneg Sain Nicolas gan ysgolfeistr brwdfrydig ydyw. Yr ysgolfeistr oedd Dan Jenkins, hen ffrind i mi. Fe'i hapwyntiwyd i'r swydd o brifathro'r ysgol yn gynnar yn y dau-ddegau, ar ôl bod yn is-athro yn ysgol Y Gilfach-goch am flynyddoedd. Yr oedd yn frodor o Sir Aberteifi, ac yn Gymro eiddgar. Daeth ton o frwdfrydedd dros ddysgu'r Gymraeg yn sgil cyhoeddi Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd Adroddiad y Pwyllgor Adrannol a benodwyd gan Lywydd y Bwrdd Addysg "i chwilio i safle yr Iaith Gymraeg yng nghyfundrefn addysg Cymru, ac i gynghori sut oreu i'w hyrwyddo Ymddangosodd yn 1927. Fe gymerodd Dan Jenkins ati i ddysgu Cymraeg i blant Ysgol Sain Nicolas-plant, pan ddechreuodd â'r dasg, na wyddent ddim Cymraeg. Yn "Nodiadau'r Golygydd" Y Llenor, rhifyn Gaeaf 1932, y mae a ganlyn:- Un o'r ysgolion pwysicaf yng Nghymru ar hyn o bryd ydyw ysgol St. Nicolas ym Mro Morgannwg. Pentref bychan ydyw St. Nicolas, ryw bum milltir o Gaerdydd, ac y mae'r wlad o gwmpas, fel y rhan fwyaf o'r Fro, erbyn hyn bron yn gwbl Seisnig. Rhyw dair blynedd yn ôl, ceisiodd y prifathro, Mr. Jenkins, weled a oedd modd dysgu'r Gymraeg yn effeithiol i blant yr ardal hon na chlywent air o'r iaith ond yn yr ysgol. Bu'r arbrawf yn llwyddiant hollol. Erbyn heddiw, y mae'r plant yn Gymry o ran iaith ac yn derbyn hyfforddiant ym mhob pwnc yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.