Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anhawster mawr i gadw'r Gymraeg yn fyw yn yr ardal oedd ei diffyg ymarfer yn y cartre, ac i'r plant yn eu chwarae a'u hadioniant. Rhaid i mi ddweud imi gael tipyn o siom yn ystod fy ymweliad â Sain Nicolas. Rwy'n mawr ofni fod y genhedlaeth bresennol wedi troi'n ôl i fod yn Saeson o ran iaith unwaith eto. HAUL AR FRYN Cyfieithiad J. GLYN DAVIES o JEPPE AAKJAER Pan ddaw rhoddi y galon frau, mi ag arall, nyni ein dau, at wisg briodas ni fynnwn hyn, cael bod yng ngolau haul ar fryn, Haul ar fryn, haul ar fryn, Gwisg briodas o dan haul ar fryn. Beth a dyf inni'n dau o'r fro? Gwair ac ydau a buwch a 110 cochlas yd, meillion coch a gwyn, pob un yn tarddu dan haul ar fryn. Haul ar fryn, haul ar fryn; lliw glas crinllys o dan haul ar fryn. Felly yn ein cartref clyd, pob diwydrwydd yn ei bryd, ac i gyfaill cawn roddi hyn, cadair y pentan tan haul ar fryn. Haul ar fryn, haul ar fryn; cadair y pentan o dan haul ar fryn. Gwych yw'r ddaear dan heulwen haf, ceirch yn addfed, a meillion braf, gwrych a'r gwyddfid yn felyn a gwyn, v peraroglau dan haul ar fryn. ä ì Haul ar fryn, haul ar fryn, lleinw fy nghalon weled haul ar fryn. (Golden Sun)