Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATGYFODI III. YR OLWG OLAF (Cyflwynedig i'r milwyr dall) Gan DILYS CADWALADR Allan o noddfa'r ffos â llam, A'r gynnau mawr yn gysgod, Aethom i uffern goch y fflam, Wedyn i'r nos ddiddarfod. Yn ôl i'n gwlad gan ddiolch oll Am einioes wedi'r helynt. Ein baich wrth gofio'n llygaid coll Yw'r gweld ofnadwy hebddynt. — Y Delyneg fuddugol yn Barddoniaeth a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol 1939. (Trwy ganiatâd caredig Mrs D. C. Scheltinga [Dilys Cadwaladr]) Dychmygodd G. K. Chesterton ddau fardd, y naill yn cymharu cab i un o gregyn y môr, a'r llall yn dweud fod y gwynt yn chwythu rownd y gornel mor sydyn â chab. Yr ail, meddai ef, sy'n rhoi'r compliment uchaf i'r cerbyd, oblegid cyffelyba ryw- beth iddo, yn hytrach na'i gyffelybu ef i rywbeth arall. Ac erbyn meddwl, gellir dweud hyn am y beirdd sy'n canmol harddwch merch trwy gyffelybu ei gwallt i'r nos neu i'r haul, ei gruddiau i'r rhosyn, a'i llygaid i'r awyr las. Yr haul a'r rhosyn, a'r pethau eraill, ydyw safon prydferthwch, a chanmolir y ferch trwy ddweud ei bod wedi cyrraedd y safon. Ond byddai gosod y ferch ei hun yn safon, a dweud fod y gwrthrychau eraill yn hardd am eu bod yn debyg iddi hi, yn llawer uwch canmoliaeth iddi. Tybiodd Dafydd :ab Edmwnd ei fod yn rhoddi teyrnged uchel i ferch wrth ddywedyd (yn dlws iawn) fod ganddi- Olwg las fal y gleisiad; r ond rhoes Eifion Wyn bluen harddach o lawer i'w gariad pan ganodd­ 1 ■ Glas yw wybyr Ebrill, r Glas fel llygad Men.