Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFR CYFRIFON TRESCAWEN 1818-1825 Gan T M. BASSETT CEFAIS weld y llyfr cyfrifon yma'n ddiweddar, ac yn sgil hynny gyfle i ail-ystyried rhyw dybiaethau a aeth yn ystrydebau imi ers tro. Ni newidiwyd dim ar un ohonynt, sef pwysigrwydd eithriadol y plas fel canolfan cyflogi yng nghefn gwlad. Ystrydeb arall oedd bwrw holl drigolion cefn gwlad ynghyd yn ddiwahan- iaeth, y werin neu, os am gael pwl o felancolia yn y gwran- dawyr, y werin dlawd Yn sicr, nid oedd cyflenwad llafur y plas mor ddi-liw â hynny; cymysgryw iawn ydoedd, yn amrywio yn ei ddyheadau a'i ymateb. Gellir canfod tri neu bedwar dosbarth gweddol bendant. I ddechrau, dyna'r dosbarth amaethyddol, yn ddynion a merched, a gyflogid, yn Nhrescawen o leiaf, am dymor o chwe mis. Ai mewn ffair gyflogi, wn-i ddim, gan nad oes air am hynny yn y llyfr. Dyma'r darlun: TACHWEDD 1818 £ s. d. Husbandman 9 9 0 Second servant 4 14 6 Groom 3 5 0 Cart drìver 2 7 0 Cart driver 1 18 0 Cow boy 1 7 0 Cook 3 0 0 Dcäry mcúd 3 0 0 Housemaid 3 0 0 Girl 1 12 0 TACHWEDD 1825 £ s. d. Husbandman 8 8 0 Second servant 4 13 0 Groom 5 0 0 Carter 4 5 0 Stabîeboy 2 5 0 Cow boy 1 5 0 Cook 3 0 0 Dairy maid 3 0 0 Housemcàd 3 0 0 Ritchen girl 1 5 0 Y peth a'm trawodd gyntaf wrth fynd trwy'r rhestrau o flwyddyn i flwyddyn oedd hyn, mor symudol oedd y gweision yma. Un yn unig a ddaliodd yn ei le o 1818 hyd 1825, a hwnnw oedd yr