Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymestyn cynnyrch y tyddyn. Dichon hefyd mai gwŷr heb eu cyflogi oeddynt. Mae'r dosbarth arall yn amryliw. Saif Templeman y ffarier ar wahân efallai, yn cael ei dalu yn ôl yr ymweliad, Four or five visits and physic £ 1". Ond nid yw yntau yn cael y Mr a roddir i Mr Hughes, jockey. Serch urddas ei deitl, yn ôl y dydd y telid ef, 1/6 y dydd, a chyflogid ef i dorri'r ceffylau i mewn ac i'w prynu a'u gwerthu. Mae'n amlwg fod prynu ceffyl yn anturiaeth ym Môn yr adeg honno. Yr uchaf ei thâl o neb oedd Betty Griffiths, a gyflogid i goginio yn achlysurol yn ôl 2/6 a 3/- y dydd, a châi'r cyfrwywr 1/9 i 1/10, a byddai galw arno weithiau i drwsio dodrefn. Telid i'r cowper yn ôl 2/- y dydd, y peintiwr 1/- y dydd, a'r saer yn amrywio 0 1/3 i 1/6. Wrth y dydd y cyflogid y rhain i gyd, hynny yw, nid oedd ganddynt bris am y job. Yn olaf oll, byddai peth gwaith yn cael ei osod i grefftwyr neu fasnachwyr o'r tu allan — canhwyllydd o Langefni'n gwneud canhwyllau o ddefnyddiau'r plas yn ôl y pwys, 2|g., tair ceiniog neu rôt. Gall y gwahanol brisiau olygu gwahaniaeth yn ansawdd y canhwyllau. Talwyd i wraig o Fiwmares am bannu llieiniau byrddau yn ôl tair ceiniog y llath. Byddai'r plas yn prynu llin, ond nid oes sôn am ei nyddu a'i weu cyn ei bannu. Allan, fe ddichon, yr âi gwlân y plas. Talwyd 13/6 yn Llangefni, for spinning, carding and making 17 yards of good white flannel"\ Mewn cyfrol o astudiaethau ar Natur, A Philosopher with Nature, gan Benjamin Kidd, a gyhoeddwyd tua dechrau'r ganrif, soniodd yr awdur am gog ifanc a gadwyd mewn caethiwed yn y wlad hon pan oedd y cogau eraill yn mynd ar eu taith tua'r deau. Diddorol, meddai, oedd gwylied yr aderyn ar ei glwyd yr adeg honno, a'i lygaid ynghau am oriau bwygilydd, a'i adenydd yn symud, symud, yn ddi-baid ar hyd yr amser. Beth petai bardd neu seicolegydd yn medru darllen meddyliau'r aderyn yn ystod yr oriau hyn? Tybed a oedd yn ei weld ei hun yn ei ddychymyg yn ehedeg ynghwmni adar eraill, dros gyfandiroedd a chefnfor maith, mewn ufudd-dod i reddfau grymus oedd yn gweithio oddi mewn iddo ac yn cyfeirio'i lwybr tua gwlad yr haf? Greddfau wedi eu llesteirio, a heb allu gwneud dim ond "curo'r awyr".