Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GENWAIR BEN GWERNYDD Gan TOM OWEN CREADUR distaw di-dramgwydd oedd Ben Gwernydd, ac yn byw ei fywyd bach hunanol ei hunan. Hynny yw, yr oedd cylch ei ddiwylliant wedi ei gyfyngu i'w amgylchedd teuluol, ac ychydig o ddiddordeb a gymerai mewn dim o'r tu allan i hyn. Yng nghaban y chwarel, prin fyddai ei sgwrs, ac ni fyddai materion undeb y gwaith, neu ddadl wleidyddol, neu hyd yn oed newyddion lleol, yn golygu dim iddo. Eto, yr oedd rhyw gyfrwystra arbennig yn perthyn iddo, achos unwaith y rhoddai ei fryd ar rywbeth-a fyddai hyn ddim yn aml-yna, drwy rhyw gynllunio anesboniadwy, byddai yn sicr o gael y peth hwnnw i'w feddiant. Un o'r ychydig bethau a'i diddorai oedd pysgota, ac yr oedd yn aelod o'r Gymdeithas Bysgota leol. Ond yn y byd hwn eto, cadwai yn hollol annibynnol a hunanol, a phan fyddai allan yn pysgota, byddai bob amser ar ei ben ei hun. Ei gyfrinach glós ef oedd y dyfroedd a neilltuai i bysgota ynddynt, yr abwyd a ddefnyddai, a maint ei ddalfa. A 'does dim amheuaeth nad oedd yn dal, oherwydd yr oedd yn gastiwr penigamp, ac yr oedd ganddo ryw fedr arbennig i gastio'i blu dan frigau'r coed oedd yn pwyso yn agos i'r dwr, ac nid oes sôn unwaith iddo golli ei flaen-llinyn yn y broses hon. Ni chymerai ddim diddordeb yn ei Gymdeithas, fel cymdeithas, a'i hunig gyfrwng iddo ef oedd y cyfle-drwy fod yn aelod ohoni -i gael mynd allan i bysgota ar ei dyfroedd. Talai bris ei drwydded yn ddirwgnaoh, a phan ddeuai i gyfarfod â chyd-aelod ar ei deithiau, ni wnâi byth gyfnewid barn ag ef ar rinweddau pluen neu'i gilydd, neu lecyn rhagorach na'i gilydd ar yr afon. Byddai amryw o'i gyd-aelodau yn cawio eu plu eu hunain, ac yn eu tradio y naill i'r llall, ond nid i Ben, ac ni ofynnodd erioed iddynt am eu cynnyrch; yr oedd yn eithaf bodlon ar y rhai a brynai yn Siop y Barbwr ar y Stryd Fawr. Wrth gwrs, defnyddiai abwyd eraill, fel y pry genwair a'r cynrhon, ond, a'i gymryd drwodd a thro, 'sgotwr pluen oedd Ben. Bob tymor, trefnai'r Gymdeithas gystadleuaeth ar gyfer ei haelodau, ac fel rheol, cynhelid hi ym mis Mehefin. Y drefn oedd rhannu'r gystadleuaeth i ddwy adran, sef un i bysgotwyr plu ar Lyn Ogwen, a'r llall i bysgotwyr pryfed genwair, y spinners," ar Lyn Idwal. I'r adran blu y byddai'r gefnogaeth fwyaf, oherwydd