Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CANOLFUR Y GWAHANIAETH Gan D. T. EATON PENNOD ddu yn hanes ein gwlad yw pennod y Chwyldro Diwydiannol. Hanes gormes a thlodi, newyn ac anghyfiawnder, brwydr galed nifer o ddynion cydwybodol yn ceisio dwyn trefn ar bethau. Yr oedd y syniad o ddau ddosbarth yn bodoli'n gryf. Credu bod un dosbarth yn bodoli dim ond er budd y llall. Dyna ddywedodd F. M. Malkin pan oedd yn sylfaenu Llyfrgelloedd Teithiol i Weithwyr Sir Forgannwg, yn y Bont Faen, 1831 "Y rheswm gorau dros addysgu'r tlawd oedd er budd y cyfoethog Dyma ganolfur y gwahaniaeth a barodd gymaint o drybini i gannoedd o deuluoedd. Addawodd Paulett Thompson, A.S. dros Fanceinion, ysgolion newydd i'r wlad. Byddai'n well gennyf fi meddai un o'i wrthwynebwyr, wneud rhywbeth fel y gallai'r dyn tlawd hongian hanerob ar drawst ei fwthyn, neu ddarllaw casgen o gwrw da; byddai hynny yn ei wneud yn fwy hapus na holl lyfrau'r byd Codi safon byw yn hytrach na gwella ansawdd bywyd. Dechreuodd diwydiant yn y cartrefi, ac oddi yno aeth i'r ffatri. Oherwydd enillion bach, gorfu i'r gwr gael ei blant a'i wraig i'w gynorthwyo er mwyn cael cyflog byw. Un o'r effeithiau oedd amddifadu'r plant o gyfleusterau addysg, a'r broblem oedd dyfeisio ffordd i'w cadw yn yr ysgol tan 12 oed. Dywedir fod 70 y cant yn ymadael o dan 10 oed, a phlant y tlodion oedd y rheini; a'r 30 y cant gweddill yn ymadael yn 11 a 12 oed, plant ffermwyr, masnachwyr a swyddogion y gweith- feydd. Ceisiodd Samuel Whitford yn 1807 ddwyn mesur o flaen Tŷ'i Cyffredin i roi addysg i blant, a thynnodd storm am ei ben, ac fe daflwyd y mesur allan. Barn Giddy, Arglwydd y Gymdeithas Frenhinol, am y mesur oedd, "Er mor deg yr olwg oedd rhoi addysg i blant y gweithwyr, byddai ei effaith yn niweidiol i'w moesau a'u dedwyddwch. Dysgai hwynt i ddirmygu eu safle mewn bywyd, yn lle eu gwneuthur yn weision ufudd, yn y safle yr oedd cymdeithas wedi ei dynghedu iddynt". Drwy'r hanes i gyd y mae "canolfur y gwahaniaeth" yn dod i'r golwg o hyd.