Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN WR Y FFRIDD Gan O. J. WILLIAMS YR oedd Gruffydd Parri, Y Ffridd, yn gymydog caredig a chymwynasgar, a meddai ar raddau helaeth o allu a synnwyr cyffredin, ond yn anffodus ni feddai reolaeth bob amser ar ei deimladau a'i dymherau-gwylltiai yn gudyll ac yn gaclwm ulw, ac er ei fod yn wr o chwaeth lednais llithrai ambell air du dros ei wefusau. Ond yn rhyfedd iawn, os rhyfedd ·hefyd (ac oni ddig- wydd hyn yn fynych?) ni allai ddal dig, ac nid adwaenai ddialedd o hirbell. Yr oedd, gyda llaw, yn getyn o lenor, a cherddor pur ddygn "at iws cefn gwlad," fel y dywedir gan rai; hwylus denorai fel yr hen Seilas." Ac ar ôl noswylio yn iselaidd," fel y canodd Dewi Wyn, byddwn wrth fy modd yn gwrando arno'n canu Fy annwyl fam fy hunan," yr Hogyn gyrru'r wedd," a Wesul tipyn," ac eraill o gerddi hudolus ein gwlad. Yr oedd Mari Gruffydd, ei briod, yn bladras o ddynes fawr ewynnog; ni feddai dalent na charedigrwydd ei phriod, ond meddai berffaith reolaeth ar ei thymherau, a phan fyddai ef yn bwrw iddi fel dwr cafn melin, byddai hi yn berffaith oer, yn mesur a phwyso pob gair fel barnwr. O ganlyniad, byddai rhaeadrau ei phriod yn darfod mor sydyn ag y dechreuasent, a llawer tro y clywais ef yn sibrwd, Wel, dyna'r hen Greenland's icy mountain wedi mynd â'r maen i'r wal eto, Wil bach." Yr wyf yn cofio'n dda adeg y cynhaeaf tatws fod fy meistr ar uchelfannau'r maes ar ôl cynhaeaf a chnwd rhagorol-y cwbl wedi eu didoli a'u cario i lendid a diddosrwydd llofft fawr yr ysgubor. A chyda llaw, yr oedd fy egnïon innau wedi ei foddhau yn fawr, a chefais lyfr Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, o waith Gwilym Hiraethog, yn rhodd ganddo am fy ymroddiad a'm diwydrwydd. Ysgrifennais fod y cwbl o'r cynhaeaf tatws wedi eu cario i ddiddosrwydd, ond rhaid imi yn awr gywiro fy hun. Yr oedd un droliad fawr yn llawn hyd yr ystyllennod o datws ariannaidd, a'r drol yn sefyll ar ei "brân," a'r limpyn "pengam" yn cloi'r frân yn sicr. A'r droliad ddiwethaf hon fu achos y torri i lawr yn Waterloo ac yn ffrwydro tanllyd.