Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

diwmod a'r un awr o'r dydd o flwyddyn i flwyddyn? I'r selogion nid oes raid iddynt brynu'r Rhaglen Swyddogol! Digwydd yr un peth yn yr Eisteddfod Gydwladol yn Llangollen. Nid oes angen prynu'r rhaglen yno chwaith, ac eithrio i wybod enwau'r ymgeiswyr. Paham na ellid cyd-redeg y canu corawl a'r dawnsio gwerin ar hyd yr wythnos, cael ychydig o'r naill a'r llall bob dydd, a'r dyfarniadau i gyd ar y Sadwrn? Byddai hynny yn denu mwy o ymwelwyr yn ddyddiol, oherwydd y duedd yn awr yw alaru ar wylio'r dawnsio trwy'r dydd Mercher, neu wrando ar ddegau o gorau yn canu yr un peth ar ddiwrnod arall. Ond pobl od o geidwadol ydym, yn rhy hoff o'r hen ffurfiau. Meddylier am diwn gron ein gwasanaeth crefyddol ar y Sul. Petai ein bywyd cenedlaethol yn debycach i ffrwd nag i bwll, buasai mwy o fywyd ac o lendid ac o ganu ynddo. Yn Be cwyno fel babanod, llunied ein llenorion seremoni arall a ddwg ragor o liw i'n bywyd llwyd. Y mae gan Ifor WiIliams-yr Ifor WiIliams-feddwl y byd o'i daid, Huw Derfel. Y mae Huw Derfel yn enwog am ddau ddarn o farddoniaeth yn arbennig-y cywydd, Y Bore Olaf (" Tyr y wawr fel tro arall"), a'r Cyfamod Di-sigl, sy'n cynnwys y pennill, Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion." Pan oedd Ifor Williams yn mynd i'w briodi, anfonodd ei gyfaill Tegla y teligram hwn i ddymuno'n dda iddo: Boed yn Gyfamod Di-sigl hyd y Bore Olaf. Tri Englyn o'r Hen Ganiad, Y MORWR, gan dri bardd anfuddugol yn yr Eisteddfod yn Llandudno. Yn rhysedd Falparaiso Gwyry' ddu a garodd o. Yfodd er mwyn anghofio! —Min y Werydd. Treulio'i oes i fentro'i lwc,-a herio Pob hiraeth ac anlwc- Byw i'w long wedyn am blwc. — Aber Ogwen. Er cyfaill, er gwraig hefyd, A thynfa parth ei henfyd, Ar y môr y mae o hyd. — P.J.