Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JIWBILI YSGOL HAF Y WjEA YNG NGHYMRU Gan JOHN THOMAS > ROEDD tri ohonom o Gymru yn wahoddedigion i Ysgol Haf y WEA yn Rhydychen yn 1912. Heddiw, fi yw'r unig un o'r tri sydd ar ôl. 'Roeddwn ar y pryd yn Ysgrifennydd y WEA dros Gymru. Yr oedd Bob Richards yn ddarlithydd Dosbarth- iadau Allanol yng Ngholeg Bangor, a'm cyfaill E. J. Hookway wedi symud o Bontypridd i fod yn Ysgrifennydd y WEA dros Adran Caerhirfryn (Lancashiré). Heddwch i lwch y ddau gyd- arloeswyr yr Ysgol Haf. Yr oeddem ein tri o'r farn mai rhagorol o beth fyddai ceisio sefydlu Ysgol Haf yng Nghymru. Credai Bob y byddai'r Awdurdodau yn barod i roi Coleg Bangor at wasanaeth Ysgol Haf; ond 'roedd yn bendant hefyd nad oedd gobaith disgwyl am unrhyw gynhorthwy ariannol gan y Coleg. 'Roedd Hookway a minnau yn barod i roi ein gwasanaeth yn ddi-dâl fel Cyd- Ysgrifenyddion a Threfnwyr yr Ysgol Haf. Addawodd Hookway, Bob a minnau gasglu disgyblion o'n gwahanol ddosbarthiadau, a chasglu cronfa i ddarparu ysgoloriaethau i'r anghenus. Aethom ati ein tri i gasglu darlithwyr o blith Athrawon adnabyddus o golegau Bangor, Caerdydd, Manceinion a Rhydychen. Addawodd Bob a minnau roi ein gwasanaeth yn rhad a di-dâl fel hyfforddwyr am y chwe wythnos tymor yr Ysgol o ddiwedd Gorffennaf dros fis Awst. Ac 'roedd llewyrch ar yr Ysgol gyntaf honno. Daeth 124 0 ddisgyblion ynghyd, 26 ohonynt yn ferched a gwragedd. Arhosodd y mwyafrif am wythnos, a rhai am bythefnos neu chwaneg, o dan ddisgyblaeth 13 o hyfforddwyr, a dwsin o ddarlithwyr cyhoeddus. Cafodd yr aelodau'r fath flas ar y darlithiau boreol a'r dosbarth- iadau hyfforddi yn dilyn, nes iddynt alw am ddarlithiau ychwanegol yn yr hwyr yn y gwestai. Cafwyd anerchiadau difyrrus gan ymwelwyr enwog, fel y diweddar gyfaill annwyl i mi, yr Athro H. W. L. Dana, wyr y bardd byd-enwog Longfellow, o'r Unol Daleithiau. Trefnwyd gwibdeithiau bob prynhawn i ymweled â chestyll Biwmares, Caernarfon, Conwy, Penrhyn, a mannau hanesyddol a diddorol eraill yn ardal Bangor. Cawsom fel Ysgol wahoddiadau i dreulio ychydig oriau yng nghwmni Mary Rathbone, yr Esgob