Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Williams a Violet Douglas Pennant, a mwynhau cwpaned o de ar eu haelwydydd croesawus. A melys iawn yn awr, a minnau bellach wedi mynd heibio i oed yr addewid, yw edrych yn ôl dros yr hanner canrif, a mawr- ygu'r fraint o fod yn un o arloeswyr yr Ysgol Haf gyntaf yng ngwlad fy nhadau. Calonnog iawn yw gweld erbyn heddiw fod dros ugain o Ysgolion Haf yng Nghymru a Lloegr yn agor eu drysau i aelodau'r WEA a Dosbarthiadau Allanol y Prifysgolion. Y BUGAIL BACH (Olaf sat on a knoll) CYFIEITHIAD J. GLYN DAVIES o JEPPE AAKJAER Bugail bach gyda'i ddefaid mân, La-la-la! ar y twmpath yn canu cân: tra-la-la! Grug yn sisial, cymylau'n mynd, gwledydd pell yn ei dynu'n dýn. Gweld y grug ac yn cofio mam; anodd iawn ydyw mentro cam. Ac ymboeni heb fod dim nes; ni fydd poeni ddim mymryn lles. A rhyw ddiwrnod yn mentro'r daith ac yn cyrraedd y môr glas maith. Llygaid yn loyw a'r dagrau'n 11i; tori rhwymau am byth, gwae fi! Teithio'n bell dros fôr a bryn; gadael defaid a'u golwg syn. Môr glas llachar yn denu o hyd, la-la-la! be wyr dafad am foroedd byd! tra-la-la!