Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS Gan C. E. THOMAS GAN y bydd mwyafrif mawr ein dosbarthiadau wedi cychwyn erbyn y daw'r nodiadau hyn i'ch llaw, cymeraf fantais ar y cyfle i ddymuno pob llwyddiant iddynt oll. Y mae'r rhagolygon am y tymor nesaf yn ardderchog. Carwn roddi hanes y tri mis diwethaf ichwi yn weddol lawn ond nid oes gofod, felly rhaid dethol. Rhaid rhoi y flaenoriaeth y tro hwn i ddatgan ein gofid am farwolaeth gwr hynaws a chyfaill hoffus, un a fu'n gefn i'r WEA am bron ddeugain mlynedd, ac yn un o'r darlithwyr mwyaf derbyniol yng Ngogledd Cymru. Cyfeirio yr wyf at farwolaeth anamserol John Alun Thomas, Darlithydd yn Adran Hanes Coleg y Brifysgol, Bangor. Prin yr aeth blwyddyn heibio nad oedd ganddo Ddosbarth Allanol o dan ei ofal; yr oedd galw cyson arno hefyd i ddarlithio mewn Ysgolion Pen-wythnos ac Undydd ac mewn Ysgolion Haf Di-breswyl. Mynych y gofyn- nais iddo lanw bwlch ar y funud olaf, ac ni ofynnais yn ofer un tro. Bydd yn golled fawr i fudiad Addysg Rhai Mewn Oed yng Ngogledd Cymru, ond Mrs Thomas, ei weddw, sy'n dioddef y golled drymaf, a chydymdeimlwn yn ddwys â hi yn ei phrofedig- aeth chwerw. Cydymdeimlwn yn fawr iawn hefyd â gweddw G. O. Hannoford, Rhyl, yn ei loes a'i cholled fawr. Dyn dwad i'r Rhyl oedd Mr Hannoford, wedi ymddeol. Bu'n weithgar yn y WEA yn Lloegr, ac ymdaflodd i waith y gangen yn y Rhyl a daeth yn gadeirydd y gangen yno. Gofid gorfod colli cyfeillion mor wasanaethgar. Y mae'r Rhanbarth wedi cael colled o fath arall hefyd yn ddiweddar, gan fod y cyfaill dawnus ac aml-ochrog, Cadvan Jones, wedi ymddeol o'r swydd fel Athro-Trefnydd llawn-amser gyda'r WEA yn Sir Feirionnydd. Diolchwn yn gynnes iddo am ei waith gwych yn y Sir. Gwyr pawb am ei lafur diflino yno, a'i barodrwydd dihafal i fyned i unrhyw fan, unrhyw amser, i'r WEA. Bu'n darlithio ac yn helpu'r mudiad ymhob sir yng Ngogledd Cymru, yn ychwanegol at ei waith yn ei sir ei hun. Er bod Cadvan yn ymddeol, ni fydd yn ymadael nac yn ymwadu â'r WEA, sy'n fudiad agos iawn at ei galon. Gallwn fod yn berffaith sicr y deil i wasanaethu'r mudiad ardderchog hwn yn wirfoddol, fel y gwnaeth am flynyddoedd yn Ne Cymru cyn dod i'w hen gartref yn athro llawn-amser. Torri cysylltiad swyddogol