Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD Gan D. T. GUY CYNHELIR Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Deheudir Cymru o'r WEA eleni yng Nghaerdydd ar Hydref 19, ac yr ydym yn awr yn paratoi'r Adroddiad Blynyddol a'r papurau eraill ar ei gyfer. Dywedodd ein Hysgrifennydd Cyffredinol, Harry Nutt, y carai fod yn ein Cyfarfod Blynyddol, a byddwn yn falch iawn o estyn croeso iddo. Y dydd Sadwrn cyn hyn, Hydref 12, bydd gennym ymwelydd enwog arall o Lundain, sef Miss Ellen McCullough. Y mae Miss McCullough, gyda llaw, wedi ei phenodi i ofalu am Gynllun Addysg Cyngres yr Undebau Llafur; bydd yn dyfod atom i gyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol yr Undebau Llafur ar Hydref 12 i drafod Cynllun Addysg newydd y TUC i Undebwyr Llafur. Y mae gennym ni ein syniadau ein hunain am y modd gorau i weithredu'r Cynllun hwn yn Ne Cymru. Bydd ein harbrofion cyntaf ynglyn â'r Cynllun newydd yng Nghastell Nedd ac Abertawe. Dewiswyd y ddau le yma am eu safle daearyddol. Y mae 16 o Undebwyr Llafur wedi eu dewis i fynychu chwe Ysgol Fwrw Sul yn y canolfannau hyn ym misoedd Medi a Hydref. Deuant o'r cylch sydd o fewn pum neu chwe milltir i'r canolfannau hyn. Ein Hathro-a-Threfnydd, J. W. England, fydd athro'r cyrsiau, a gynlluniwyd ganddo i ateb anghenion myfyrwyr o Undebwyr, sef astudiaeth fanwl o "Waith Undebau Llafur." Trafodant Amcanion a Dulliau'r Undebau, a'u cysylltiad â Gwleidyddiaeth. Gofynnir iddynt ysgrifennu a darllen llawer. Heblaw'r Ysgolion Undydd hyn, a rhai eraill, yr ydym yn trefnu cyfres o Ysgolion Preswyl Bwrw Sul i ddosbarthiadau llai o Undebwyr Llafur. Wrth gwrs, y mae lluosogi ein gweithgareddau fel hyn yn golygu llawer mwy o waith i Swyddfa'r Rhanbarth; y mae hynny'n anochel mewn rhanbarth mor ddiwydiannol â hwn. Gobeithiwn y bydd yr holl weithgarwch hwn yn arwain, ymhlith pethau eraill, i chwyddo rhif ein Haelodau. Y mae Canghennau'r WEA yn brysur iawn yn awr yn gorffen llunio eu rhaglenni ar gyfer y tymor. Y mae Canghennau Castell Nedd a Llanelli a Phontarddulais eisoes wedi cwpláu eu rhaglenni. Cychwynna'r tymor ymhob un ohonynt ag Wythnos o Ddarlith- iau (Medi 16-20). Yng Nghastell Nedd, dyma'r rhaglen: Nos Lun, T. W. Thomas ar "Shakespeare i Ni Heddiw"; Nos Fawrth, J. W. England ar "Muthau'r Wladwriaeth Les Nos