Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDD (1) Y Cowboi, gan Howell Jones, Gwasg Prifysgol Cymru. 7/6. (2) Nadolig Gwyn, gan R. Gerallt Jones. Gwasg Gee. 12/6. (1) Dywed awdur Y Cowboi fod y nofelwyr, y ffilmwyr a'r teledwyr wedi rhamanteiddio'r cowboi a rhoi darlun hollol anghywir ohono. Ond yn y llyfr hwn cawn ddarlun hynod o ddiddorol o'r cowboi hanesyddol a flodeuai yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r awdur wedi mynd i drafferth fawr i roi inni ddarlun cywir o'r cowboi-ar ddiwedd y llyfr ceir rhestr o 94 0 lyfrau a 32 o erthyglau a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith. Yn y pedair pennod cyntaf cawn hanes dyfodiad y gwartheg hirgorn i Gyfandir America, o'r gwartheg cyntaf a ddaeth yno gyda'r Sbaenwyr hyd ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd perchenogion y gwartheg fel barwniaid oes ffiwdal yn hawlio'r tir o'r Gwlff i Ganada, y Paith Isel a'r Paith Uchel o'r Mynyddoedd Creigiog i Kansas." Gwaith y cowboi oedd gofalu am y gwartheg a'u gyrru ar draws gwlad. Cawn ddisgrifiad byw ohono wrth ei waith yn y pedair pennod nesaf. Y Machlud yw teitl y nawfed bennod ac ynddi trafodir y pethau a roes ergyd i ymerodraeth y fuwch hirgorn — dyfodiad y rheilffordd a rhannu'r wlad yn ffermydd. Ar y dechrau ni faliai'r cowbois na'r gwartheg ddim am y ffermydd. Ni fedrai'r ffermwyr eu hunain wneud rhyw lawer i amddiffyn ffiniau eu ffermydd rhag gwartheg y cowbois ychwaith-nes perffeithio dyfais y wifren bigog. Sicrhaodd y wifren bigog ffiniau'r ffermydd a thrwy hynny llwydd- odd i leihau'r tir a oedd ar ôl i'r gwartheg hirgom. Arweiniodd hyn ynghyda dau neu dri o aeafau caled i ddifodi'r gyrroedd mawr o wartheg hirgom a oedd dan ofal y cowbois. Yn y bennod olaf rhoddir disgrifiad o'r cowboi fel y mae heddiw gyda manteision gwyddonol yr ugeinfed ganrif-set deledu, cwpwrdd rhew a chinio poeth lIe bynnag y bo'n gweithio. Ond yr un yw ei waith yn y bôn, sef bugeilio gwartheg ar geffyl." Llyfr anghyffredin yw hwn-a dyma'r unig lyfr Cymraeg ar y pwnc. Mwynheais ef yn fawr. (2) Ail nofel Gerallt Jones yw Nadolig Gwyn. Rhys Davies yw'r prif gymeriad. Bu Rhys unwaith yn wrthryfelwr chwyldroadol Cymreig ac ysbrydolodd eraill i fod yn wrthryfelwyr. Anfonwyd un