Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ohonynt, sef Jac Watkyn, i garchar. Erbyn hyn daeth Rhys i'r casgliad nad oedd dim i'w ennill drwy wrthryfela'n chwyldroadol. Llwyddodd i berswadio cyfeillion Jac Watkyn i roi'r gorau i'w cynlluniau gwrthryfelgar. Yn ystod gwyliau'r Nadolig daw Jac Watkyn o'r carchar a dau fwriad yn ei galon-lladd Rhys Davies a pharhau ymlaen â'i gynlluniau chwyldroadol. Hanes y pethau cynhyrfus sy'n digwydd o ganlyniad i'r bwriadau hyn yw cynllun ail ran y nofel. Gwleidyddiaeth Coleg yw teitl y rhan gyntaf-ymddiswyddiad John Jenkins, Athro Cymraeg y Coleg, a Rhys Davies yn cael ei demtio i gynnig am y swydd a thyfu'n athro coleg a gwleidydda'n ofalus. Mae'r llyfr yn hynod o ddarllenadwy, ac anodd yw ei roi o'r neilltu nes cyrraedd y tudalen olaf. GRIFFITH J. JONES Y Ffordd Beryglus, gan T. Llew Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 10/6. Os ydych yn hoffi darllen y drydedd bennod ar ddeg o Gwen Tomos-Yr Ornest-byddwch yn sicr o fwynhau'r nofel gyffrous hon. Ceir ynddi'r un sefyllfa; ar un ochr y mawrion afradlon trahaus ac ar yr ochr arall y diniwed ar lawr (ond nid heb gyfrwystra chwaith!) a gynrychiolir yma gan arwr y nofel, sef Twm Siôn Cati. O glawr i glawr, â'r frwydr ymlaen rhyngddynt, a'r darllenydd pryderus ar bigau'r drain. Ymleddir yr ornest â cheffylau rhedeg ar y maes, â dyrnau noeth ar lawr tafarn neu â phistolau tanllyd yn unigrwydd y mynyddoedd tu cefn i Dregaron. Digwydd y cwbl ryw ddau can mlynedd yn ôl, ond gwarchod! mae ambell gyffyrddiad modern! Ymyrryd â cheffyl cyn y ras, lladrata swm sylweddol o arian ar y ffordd o Lundain-yr union ddigwyddiadau a wna ein newyddion heddiw! Mae yma hefyd iaith gartrefol, gydag ambell idiom hyfryd o Geredigion sy'n gwneud y nofel yn amgenach na chrefftwaith medrus. Dyma nofel sy'n mynd i apelio at bawb o bob oed sy'n hoffi antur. Mae camp ar y cynhyrchu a'r darluniau, ac mae'r cyfan yn fargen am 10/6. Un peth arall, addewid yr awdur yn ei ragair am ddwy nofel eto cyn gorffen hanes y Twm Siôn Cati hwn-dyna rywbeth i edrych ymlaen ato. D. ELLIS JONES