Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dewi Sant a'i Amserau, gan J. J. Evans. Gwasg Gomer. 2/ Llyfr bychan cynhwysfawr ydyw hwn. Rhydd ei ragymadrodd inni ffynonellau ein gwybodaeth am Ddewi, ac yna yng nghorff y llyfryn ymdrinnir â buchedd Dewi. Trafodir ei gefndir a'i amgylchedd yn glir, ac nid oes amheuaeth am wybodaeth yr awdur o'i faes, ac y mae'n amlwg ei fod yn bwnc yr ymserchodd ynddo. Ar y diwedd mewn atodiad rhoddir inni'r wyddor Ogam, ac y mae gweld honno'n siwr o atgoffa'r cyfarwydd am un sistem adnabyddus o sgrifennu llaw-fer-nid oes dim newydd dan haul! Y mae'r llyfryddiaeth fer sy'n cloi'r llyfr yn werthfawr. Rhyfedd yw meddwl mor ansicr yw llawer o'r ffeithiau ynglyn â Dewi Sant, ond da iawn ydyw cael crynodeb o'n gwybodaeth sicr amdano yn y llyfr hwn. Er fy mod yn deall neges y sylwadau ar bregeth Dewi yn burion, teimlaf fod y frawddeg hon braidd yn benagored, Nid ymuno ag eglwys yw bod yn Gristion, ond ffordd o fyw." Dylai hwn fod yn llyfr wrth fodd y rhai sydd â'u bryd ar ymddiddori yng nghyfnod y Saint, ac y mae ein diolch i J. J. Evans am ei sgrifennu yn un cywir iawn. Canmlwydd Siloh, Aberystwyth, gan F. Wyn Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (Gwasg Gomer). 6/ Y mae hwn yn llyfr o 14 pennod, yn cynnwys atodiad a nifer helaeth o ddarluniau, a'r rheini'n rhai clir ryfeddol. Gresyn na allesid bod wedi cael darlun o gerflun nodedig R. L. Gapper sydd yn y capel i goffáu'r rhai a syrthiodd yn y rhyfel 1939-45. Y mae hwnnw'n un o'r cerfluniau mwyaf Cristionogol y gwn i amdano i goffáu colledigion rhyfel. Y mae stori canrif gyntaf capel Seilo Aberystwyth wedi ei ddiogelu'n daclus gan F. Wyn Jones. Detholodd ei ddefnyddiau'n ddoeth, ac ysgrifennodd yr hanes yn ddifyr dros ben. Nid oedd yn hawdd delio â mater dyrys fel yr "ymraniad," ond dengys pennod 12, Cwmwl, fod gan yr awdur chwaeth dda. Y mae'r llyfr yn ddogfen werthfawr yn hanes Methodistíaeth Cymru, a dylai apêl y llyfr fod yn llawer ehangach nag i rai sy'n gysylltiedig â chapel Seilo. Ceir tipyn o ail adrodd ar adegau, ond cedwir ein diddordeb o'r dechrau i'r diwedd. Y mae yma ambell damaid hiraethus-ddoniol i ni sy'n byw ym mlynydd- oedd y trai crefyddol. Yn 1874 telid chwe cheiniog i grïwr am fynd drwy'r dref i hysbysu oedfa bregethu. Ym mhen deng mlynedd, yr oedd pris y crïwr wedi dyblu! 1901 Medi 23.