Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwaith Myddrydol, gan Cyril P. Cule. 3/6. Er fod yma ganu gwreiddiol ffraeth, fel Cysêt y Sectau, cymwynas Cyril Cule â ni yw ei gyfieithiadau o weithiau Alfred De Vigny, Lamón de Campoamor, ac eraill. Deunydd amheuthun i fyfyrwyr arddull a chynnwys. Mae'r delyneg, Man cyfarfod yn y nef, yn dwyn ar gof y cyfieithu mawr o waith Heine a gafwyd gynt. Yn ychwanegol, cyfieithodd yr awdur gomedi un act Molière, Le Cocu Imaginaire (Y Cwcwallt Dychmygol). Gwobrwywyd y cyfieithiad hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth (1952). Gogoniant y gomedi, chwedl y beirniaid, yw'r direidi cam-ddeall a'r problemau na pherthynant i unrhyw oes nac i unrhyw wlad arbennig". (Mynnai'r ddau feirniad hefyd fod rhai o linellau'r cyfieithiad yn gloff. Erys y cloffni). Canaf, mi Ganaf, gan Mair Elli. Gwasg Gomer. 7/6. Teitl bendigedig! Canu swynol a chanu poblogaidd ar destunau cartrefol. Ymborth ddigonedd i'r sawl a wrthyd ymdrafferthu'n ddygn i ddeall cerddi modern. Ceir gwallau iaith ac odl yma, a thor mesur. Pennill o garol hefyd nad yw'n ddim ond ymdrech i odli enwau gwledydd! Ond peth hawdd fydd maddau hyn i gyd i'r sawl a gâr ganu rhwydd, a darlun o fywyd ac arferion gwlad, yr hela a'r cneifio, y tywydd a'r cyfan. Y cyflwyno gan Crwys. Chwedlau ac Odlau, gan Cledlyn. Gwasg Gomer. 9/6. Tair adran-chwedlau, cwstwm ac arfer, ac odlau. Atgofion naw deg o flynyddoedd. Enillodd yr awdur Gadair Genedlaethol gyntaf yn 1919. Ac enillodd Gadair Aberteifi yn 1958! Deugain mlynedd o gystadlu llwyddiannus. Ceir llawer o draethu uchel-ael" gan rai na welwyd un prawf o'u gallu creadigol na beirniadol ar bwynt yr Eisteddfod a'i phrentiswaith Ac arswydant o glywed ei bod hi'n bosibl i ddyn fyfyrio'n ddigon hir ar destun gosodedig nes derbyn gweledigaeth. Gwrthod canu, dro arall, am na ddaeth gweledigaeth. (Bardd amheus-na, prydydd yn unig yw'r sawl a fo'n gaeth i symbyliad cystadleuol, wrth gwrs). Yr ateb i rai o'r fath yw cael gwŷr fel Cledlyn ac Euros Bowen a Caradog Prichard ymhlith y cystadleuwyr.